Agor cwest i farwolaeth bachgen 15 oed mewn chwarel
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos bachgen 15 oed a fu farw ar ôl syrthio mewn chwarel yn Nhorfaen.
Fe syrthiodd Myron John Davies o Bont-y-pŵl yn hen chwarel Abersychan ar gyrion y dref ddydd Mercher 6 Gorffennaf.
Wrth agor y cwest yng Nghasnewydd, dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, bod yr heddlu wedi derbyn galwad am 18:36 yn rhoi gwybod bod dau berson wedi syrthio mewn chwarel.
Dywedodd bod parafeddygon wedi cadarnhau bod Myron Davies wedi marw yn y fan a'r lle.
Yn ôl casgliadau cychwynnol archwiliad post-mortem bu farw o anafiadau niferus i'r pen a'r corff.
Ychwanegodd Ms Saunders bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Cafodd y cwest ei ohirio tan 27 Ebrill 2023.
Mae'r ail berson a syrthiodd yn y chwarel, merch 14 oed o ardal Blaenafon, yn cael triniaeth am anafiadau difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael ei chludo yno mewn ambiwlans awyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2022