'Newid ar droed' ym myd seiclo menywod
- Cyhoeddwyd
Dychmygwch pe bawn i'n dweud wrthych nad Geraint Thomas oedd y cyntaf o Gymru i ddod i'r brig yn y Tour de France…
I raddau helaeth, mae'n ddatganiad sy'n wir. Roedd baner Cymru wedi cyhwfan ar ris uchaf podiwm y Tour ddwy waith cyn haf euraidd y gŵr o Gaerdydd yn 2018.
Ond dydy hi ddim cweit mor syml â hynny chwaith.
Yn 2006 a 2007, enillodd Nicole Cooke La Grande Boucle Féminine, oedd yn cael ei ystyried yn 'gyfatebol' i Tour de France y dynion, er dan ofalaeth trefnwyr annibynnol.
Daeth y ras honno i ben dros ddegawd yn ôl, ac wedi hynny, dim ond atodiad ticio bocs sydd wedi bod i'r menywod ar lwyfan y Tour de France. Fe'i galwyd yn 'La Course' - ras un diwrnod fyddai'n cyd-redeg ag un o'r cymalau yn ras y dynion ar addasiad o'r un cwrs. Er y cafwyd rasys hynod gyffrous a chofiadwy, mae'n warth llwyr mai dyma oedd eithaf ymdrechion y trefnwyr i drefnu Tour de France i fenywod.
Mae'n un o enghreifftiau di-ri o'r modd y mae seiclo menywod yn cymryd cam yn ôl cyn cymryd cam ymlaen; ceir cyfnodau o lanw ac o drai. Hurt yw meddwl fod Tour de France i fenywod - un dair wythnos ar gymalau tebyg i ras y dynion fyddai'n cael eu cynnal yn gynharach ar yr un diwrnod - yn bodoli yn yr wythdegau, ond mai ras un diwrnod fyddai dros dri degawd yn ddiweddarach.
Ond diolch byth, mae newid ar droed.
Cam ymlaen
Bydd nifer yn mynnu mai dyma'r 'Tour de France' cyntaf i fenywod, ac er y gwyddwn nad ydy hynny'n wir o bell ffordd, mae'n dod fel rhan o'r don newydd gadarnhaol a chyffrous sy'n cynnig llwyfan gwirioneddol i seiclo menywod, ac yn sicr yn teimlo fel cam mawr i'r cyfeiriad cywir.
Paham ei bod hi wedi cymryd cyhyd i ras or fath gael traed oddi tani? Mae'n debyg mai arian, diddordeb a chynaliadwyedd fu'r prif rwystrau.
Ond mae'r twf aruthrol mewn darlledu ac yn y diddordeb dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â chasgliad gadarn o noddwyr uchel eu parch, wedi dileu'r rheiny i raddau helaeth.
Y Cwrs
Yn sgil y gwahaniaethau sydd rhwng rasio dynion a rasio menywod o ran hyd a her y rasys, daw gwahaniaeth yn arddull y rasio yn ogystal. Maent yn tueddu i fod yn fwy ffrwydrol, ac yn aml yn gallu bod yn fwy cyffrous o'r herwydd na rasys y dynion.
Mae'n braf gweld, felly, fod dyluniad cwrs y Tour de France Femmes yn adlewyrchu hynny.
Ceir ambell gymal i'r gwibwyr ar ddechrau'r ras, ac mae'r mwyafrif yn cynnig lle digonol am ymosodiadau a diweddgloeon tanllyd. Mae un ohonynt, cymal pedwar rhwng Troyes a Bar-sur-Aube, yn cynnwys nifer o sectorau ar lonydd graean drwy winllanoedd rhanbarth y Champagne.
Wedi'r crescendo graddol, mi fydd y ras yn cyrraedd uchafbwynt ar y ddau gymal olaf mynyddig, a'r ras yn gorffen ar ddiweddglo copa La Planche des Belles Filles lle bydd y fuddugwraig gyntaf yn y ras hon yn cael ei choroni.
Y reidwyr
Ar drothwy'r ras, dwy Isalmaenes sy'n cyrraedd y llinell ddechrau fel y prif ffefrynnau. Ym mlwyddyn olaf ei gyrfa, bydd Annemiek van Vleuten yn awyddus iawn i orffen ar nodyn uchel. Mae'n un sydd wedi bod ymysg y goreuon ers blynyddoedd maith, yn wahanol i'r ffefryn arall, Demi Vollering, sydd ond wedi dod i frig y gamp ers y clo mawr.
Bydd y ddwy yn hynod gyfforddus a bygythiol ar y cymalau mwy ymosodol sy'n rhan allweddol o'r ras eleni, ond hefyd yn fwy nag abl i gamu i'r brig ar lethrau serthion mynyddoedd y Vosges.
Dylid cadw golwg yn ogystal ar y gorau erioed, Marianne Vos, fydd yn sicr eisiau creu argraff fawr ar y cymalau bryniog a gwastad i ychwanegu at ei palmarés hirfaith, er efallai y bydd buddugoliaeth ar y dosbarthiad cyffredinol y tu hwnt i'w gafael.
Does dim un Gymraes yn y ras eleni, yn anffodus, ond mi fydd y platfform newydd yma i seiclo menywod yn sicr o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf mewn modd nas gwelwyd erioed o'r blaen. Lle i fod yn obeithiol am y dyfodol.
Dyfodol gwell?
Fel sydd wedi ei grybwyll eisoes, mae llwybr peloton y menywod wedi bod yn un troellog, heriol â sawl tro trwstan. Fel mae Nicole Cooke yn ei ddweud yn ei hunangofiant hybarch, The Breakaway, "doedden ni heb gael ein talu ers wythnosau, ond dyna'r lleiaf o'n problemau; roedd o'n wael beth bynnag".
Dydy hynny ddim yn amser pell yn ôl, ac mae nifer o fenywod o fewn y peloton yn dal i orfod cael swydd arall i gadw dau ben llinyn ynghyd wrth i'r dynion fwynhau miliynau o bunnoedd y flwyddyn. Mae nifer o'r reidwyr fydd yn herio am gymalau neu'r crys melyn yn y ras eleni wedi profi'r dyddiau tywyll hynny, ac yn gallu cloi eu gyrfaoedd mewn modd cadarnhaol drwy rasio yn uchelfannau rhediad cyntaf y Tour de France Femmes.
Boed i'w taith nhw fod yn symbol o obaith bod gwell i ddod i seiclo menywod, ac y gall y Tour de France Femmes dyfu i fod yn ras sy'n deilwng o'u talent a'u dyfalbarhad.