Parc Ynni Baglan: £6m i gysylltu â chyflenwad pŵer newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £6m yn cysylltu busnesau ym Maglan i gyflenwad pŵer newydd.
Mae miliynau yn fwy wedi'i wario gan gwmnïau a oedd wedi'u cysylltu i Orsaf Bŵer Baglan cyn i'r perchnogion fynd i'r wal.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymyrryd i ddiogelu'r cyflenwad ynni.
Ond yn ôl Llywodraeth y DU mae "unrhyw gynllunio wrth gefn wastad wedi bod dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru".
'Gwarchod cymunedau a swyddi'
Roedd 36 o fusnesau sy'n cyflogi cyfanswm o tua 1,200 o bobl yn wynebu colli eu cyflenwad trydan pan aeth yr orsaf bŵer i'r wal.
Roedd hefyd yn gyfrifol am gyflenwad trydan ar gyfer pum gorsaf bwmpio carthion, a'r goleuadau stryd.
Y corff oedd yn gyfrifol am weinyddu'r orsaf bŵer oedd y gwasanaeth ansolfedd, sy'n un o asiantaethau Llywodraeth y DU.
Dywedodd Mr Gething: "Rwyf wedi dewis gwario tua £6m o arian cyhoeddus i warchod y cymunedau sydd yma, ac i warchod y swyddi.
"Rydym hefyd wedi gorfod brwydro achos cyfreithiol rhwystredig iawn, iawn gydag adran o Lywodraeth y DU oedd am ein hatal rhag cymryd y camau hynny.
"Mae wedi bod yn gyfnod hynod rwystredig."
Dywedodd y gwasanaeth ansolfedd wrth gwsmeriaid Gorsaf Bŵer Baglan y byddai eu cyflenwad trydan yn cael ei ddatgysylltu ym mis Ionawr 2022.
Roedd hyn fisoedd cyn cwblhau'r gwaith i osod rhwydwaith trydan newydd, ac fe lansiodd Llywodraeth Cymru achos cyfreithiol i geisio gohirio'r dyddiad datgysylltu.
Rhoddodd barnwyr ganiatâd i oedi'r datgysylltu tra bod y dadleuon cyfreithiol yn cael eu hystyried, ac mae'r gwaith o osod cysylltiad newydd wedi'i gwblhau cyn i'r achosion llys ddod i ben.
Ychwanegodd Mr Gething: "Doedd yr adran o Lywodraeth y DU ddim yn barod i atal yr orsaf rhag cau, neu atal y datgysylltu rhag digwydd.
"Byddai hynny wedi golygu y byddai swyddi wedi mynd, ond byddai hefyd wedi peryglu'r gorsafoedd pwmpio sy'n amddiffyn y gymuned leol a'r busnesau."
Rhwydwaith newydd yn 'cymryd amser'
Gwariodd Llywodraeth Cymru tua £4m ar y rhwydwaith trydan newydd sy'n cysylltu'r safle â'r grid cenedlaethol, gyda chostau eraill yn codi yn ystod ymdrechion i ddatrys y sefyllfa.
Ar un adeg roedd gweinidogion wedi ystyried prynu neu rentu'r orsaf bŵer er mwyn cynnal y cyflenwad trydan, ond daeth i'r amlwg y byddai'r broses yn cymryd gormod o amser.
Y gwneuthurwr papur Eidalaidd, Sofidel, oedd y cyflogwr mwyaf a oedd yn dibynnu ar yr orsaf bŵer.
Mae ganddi weithlu o dros 300 o bobl, ac fe ddefnyddiodd tua 94% o'r trydan a ddaeth o Orsaf Bŵer Baglan.
"Mae cael system wrth gefn, gyda fferm generaduron, wedi costio sawl miliwn o bunnoedd i ni, hyd yn oed os na fyddai byth yn cynhyrchu un cilowat o ynni," meddai Giuseppe Munari.
Mr Munari yw cyfarwyddwr Sofidel yn y DU, ac fe ymunodd y cwmni ag achos llys Llywodraeth Cymru i ohirio'r datgysylltu ar ôl gorfod llogi generaduron fel cynllun wrth gefn.
"Y cynllun yn y pendraw oedd i gael cyflenwad newydd o drydan. Yn anffodus mae hyn yn cymryd amser. Clywais ei bod yn cymryd dwy neu dair blynedd fel arfer yn y wlad hon," meddai.
Mae Sofidel wedi talu am is-orsaf drydan newydd sy'n creu cysylltiad dibynadwy i'r grid cenedlaethol, tra bod Western Power Distribution wedi darparu'r cysylltiadau gwifren newydd hyd at adeiladau pob safle ar y stad ddiwydiannol.
'Cefnogi Llywodraeth Cymru'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod "unrhyw gynllunio wrth gefn wastad wedi bod dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru".
"Mae Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei chyfrifoldeb i sicrhau fod y rheiny sydd wedi'u heffeithio ar Barc Ynni Baglan yn cael yr help maen nhw ei angen," meddai.
Ychwanegodd fod "y llys wedi gwrthod y ceisiadau gan Lywodraeth Cymru ac eraill yn gynharach eleni".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022