Menyw yn y llys wedi'i chyhuddo o lofruddio dyn

  • Cyhoeddwyd
Tredegar
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle yn Nhredegar Newydd yn gynnar fore Sul

Mae menyw 31 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 57 oed yn Sir Caerffili dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i'r safle yn Nhredegar Newydd am tua 00:30 fore Sul, ble cafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Fe wnaeth Rebecca Louise Press, o ardal Caerffili, ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd fore Iau, ac mae hi hefyd wedi'i chyhuddo o ymosod ar fenyw arall.

Dyw enw'r dyn fu farw heb ei gyhoeddi hyd yma.

Mae Ms Press wedi cael ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi wneud ei hymddangos nesaf ar 17 Awst, gyda dyddiad dros dro o 9 Ionawr 2023 wedi'i bennu ar gyfer dechrau'r achos.

Pynciau cysylltiedig