Beiciwr modur wedi marw ar gyrion Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
A487 Bow StreetFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A487 yn Bow Street brynhawn Mercher

Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A487 yng Ngheredigion ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn Bow Street, ar gyrion Aberystwyth, ychydig cyn 13:00.

Fe gafodd y beiciwr modur - dyn yn ei 70au - ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai'r beic modur oedd yr unig gerbyd fu'n rhan o'r gwrthdrawiad.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig