Paul Bodin yn gadael ei rôl gyda thîm dan-21 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi fod Paul Bodin wedi gadael ei rôl fel rheolwr dan-21 Cymru.
Treuliodd Bodin, 57, dair blynedd wrth y llyw gyda'r tîm ieuenctid.
Enillodd Bodin 23 cap i'w wlad fel chwaraewr, ac ar ôl ei ymddeoliad aeth ymlaen i reoli Caerfaddon ac yna tîm dan-19 Cymru, cyn symud i'r tîm dan-21 yn 2019.
Mewn datganiad dywedodd CBDC: "Gall Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau bod Paul Bodin wedi gadael ei rôl fel rheolwr Cymru dan-21 trwy gydsyniad.
"Hoffai CBDC gofnodi ei ddiolch i Paul Bodin am ei ymrwymiad i dimau cenedlaethol Cymru a dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol."
Nid oedd y tîm yn llwyddiannus yn cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Dan-21 Ewrop Uefa 2023, wrth orffen yn bedwerydd yng Ngrŵp E y tu ôl i'r Iseldiroedd, y Swistir a Moldofa.
Yn ystod ei gyfnod bu Bodin yn gweithio gyda chwaraewyr fel Brennan Johnson, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies a Ben Cabango, sydd i gyd bellach wedi symud ymlaen i'r garfan lawn.