Llofruddiaeth Caerffili: Teyrnged i ddyn 'hyfryd'

  • Cyhoeddwyd
Tredegar
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle yn Nhredegar Newydd yn gynnar fore Sul

Mae rhieni dyn 57 oed a gafodd ei ganfod yn farw yn Sir Caerffili ddydd Sul wedi rhoi teyrnged i'w mab "hyfryd".

Cafodd corff Richard Marc Ash ei ganfod mewn eiddo yn Nhredegar Newydd am tua 00:30 fore Sul.

Mae Rebecca Louise Press, 31 oed o ardal Caerffili, wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd wedi'i chyhuddo o'i lofruddio.

"Roedd Richard Marc yn berson mewnblyg, hyfryd. Roedd fy ngwraig a minnau mor lwcus i fod yn rhieni iddo," meddai datganiad ei rieni.

"Mae pawb oedd yn adnabod Richard Marc yn llawn canmoliaeth am y math o ddyn oedd ef.

"Roedd yn berson hyfryd a byddwn yn ei gofio fel hynny am byth."

Mae Ms Press wedi cael ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi wneud ei hymddangos nesaf ar 17 Awst, gyda dyddiad dros dro o 9 Ionawr 2023 wedi'i bennu ar gyfer dechrau'r achos.

Pynciau cysylltiedig