Pwy yw Jeremiah Azu?
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi hawlio nifer o wibwyr dawnus ar y trac athletau dros y blynyddoedd. Dros ganrif yn ôl enillodd David Jacobs o Landudno fedal aur yn y ras gyfnewid yng Ngemau Stockholm 1912, ac fe wnaeth Cecil Griffiths yr un peth yng Ngemau Antwerp yn 1926.
Roedd Colin Jackson yn bencampwr byd yn 1993 a 1999 dros y clwydi 110m, hawliodd aur ddwywaith dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad (1990 a 1994) ac fe enillodd fedal arian yng Ngemau Olympaidd Barcelona 1992.
Ac yn fwy diweddar Christian Malcolm oedd yn cario'r baton dros wibwyr Cymru yn y 1990au a 2000au.
Y gwibiwr o safon uchel diweddara' o Gymru yw Jeremiah Azu o Gaerdydd, a oedd tan yn ddiweddar yn cael ei adnabod fel person cyflyma' yn Ewrop pan oedd yn ei arddegau.
Mae'n cael ei alw'n Jez gan amlaf, a thra'n tyfu fyny yng Nghaerdydd roedd crefydd yn rhan bwysig o'i fagwraeth.
Dechreuodd gymryd athletau o ddifri yn 16 oed gan ymuno â Clwb Athletau Amatur Caerdydd. Yn 18 oed, tra roedd yn astudio am ei arholiadau Lefel A fe enillodd ras 100m mewn amser o 10.27 eiliad yn Loughborough.
Pencampwr Prydain
Ond mae Jemeniah yn 21 mlwydd oed ers mis Mai a bellach mae'n cael llwyddiant yn erbyn rhedwyr hŷn a phrofiadol.
Ym mis Mehefin eleni fe enillodd Bencampwriaeth Prydain - y Cymro cyntaf i wneud hynny ers Ron Jones yn 1969.
Ei amser o 9.90 eiliad oedd y cyflymaf erioed gan Gymro, ond oherwydd cryfder y gwynt tu ôl iddo yn y ras nid yw'r record swyddogol yn sefyll. Rhedodd amser o 9.94 yn y rownd gyn-derfynol ond roedd yr amser hwnnw (a fyddai hefyd wedi bod yn record) hefyd wedi ei ddiystyru o'r llyfrau hanes oherwydd y gwynt.
Christian Malcolm sydd â record genedlaethol 100m Cymru ar hyn o bryd - rhedodd mewn amser o 10.11 eiliad yn Edmonton, Canada yn 2001. Ond mae disgwyl y bydd Jeremiah Azu yn cipio'r goron honno rhyw ddydd.
Gemau Gymanwlad 2022
Tri Americanwr oedd y sêr yn Mhencampwriaethau'r Byd ar 16 Gorffennaf: Fred Kerley yn ennill aur, Marvin Bracy yn ennill arian, a'r efydd yn mynd i Trayvon Bromell.
Wrth gwrs dydy'r Unol Daleithiau ddim yn y Gymanwlad, ond yn bedwerydd a phumed yn y rownd derfynol honno oedd dau ddyn fydd yn wynebu Jerermiah Azu yn Birmingham: Oblique Seville o Jamaica a Akani Simbine o Dde Affrica.
Bydd pencampwr presennol Affrica, Ferdinand Omanyala o Kenya, yno hefyd.
Dau Sais a all roi dipyn o her i Azu fydd Reece Prescod a Phencampwr Ewrop yn 2018, Zharnel Hughes.
Ond fe gurodd Azu y ddau yma i ddod yn Bencampwr Prydain felly pwy a wŷr, fe all eleni fod y flwyddyn y gwelwn Gymro yn torri'r record cenedlaethol a gwneud enw i'w hun ar lwyfan byd.
Hefyd o ddiddordeb: