'Sioc a chyffro' bod ar restr fer Gwobr Mercury
- Cyhoeddwyd
Doedd Gwenno Saunders ddim yn gwybod tan ychydig ddyddiau yn ôl bod beirniaid Gwobr Mercury yn ystyried cynnwys ei thrydedd albwm Tresor ar eu rhestr fer.
"Ma'n bach o sioc, yn hynod gyffrous a da ni just trio cymeryd popeth mewn," meddai'r gantores o Gaerdydd mewn cyfweliad gyda rhaglen Post Prynhawn Radio Cymru.
Roedd yn siarad ychydig oriau ar ôl y seremoni i gyhoeddi'r 12 artist sydd ar y rhestr fer eleni - rhestr sy'n cynnwys Harry Styles gynt o One Direction, Sam Fender, Self Esteem a Little Simz.
"Naethon ni ffeindio diwedd wsos dwetha' bo' ni yn cael ein ystyried - gaethon ni'r alwad a doeddwn ni ddim 'di meddwl am y peth cyn hynny," meddai.
"Roedden ni 'di rhoi'r albym allan yn y cyfnod clo, a does dim enwebiadau sy' ddim yn Saesneg wedi digwydd felly doedd o ddim i'w ddisgwyl."
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 8 Medi ond mae cael bod yn rhan o'r rhestr fer yn codi proffil albwm a'r artist.
"Ma'n beth mor fawr fel cerddor," meddai Gwenno.
"Ti mor ymwybodol ohono fe fel gwobr, a ma'n un o'r rheiny ma' ca'l bod yn rhan ohono fe yn eitha' swreal ar hyn o bryd. Ma'n newyddion arbennig."
Mae'n 30 mlynedd ers cyflwyno'r Wobr Mercury gyntaf - ymgais gan y trefnwyr i greu gwobrau gwahanol i wobrau Brits sy'n cael eu cyfri'n rhai prif ffrwd.
"Dyna sy'n ddiddorol am y wobr, bod 'na amrywiaeth o artistiaid a 'di o ddim yn seiliedig ar faint o arian sy' 'di wario ar y prosiect," meddai Gwenno, "so ma'n rywbeth sy'n teimlo bach yn fwy democrataidd amdano fe.
"Dwi'n meddwl fod o'n creu rhestr mwy eang falle o safbwynt arddull a ma'n neis meddwl bo' fi ar yr un rhestr â Harry Styles - dyna 'di'r peth mwya' swreal."
Ond er mor eclectig yw dewisiadau'r beirniaid bob blwyddyn, mae cynnwys albwm sydd ddim yn cael ei chanu'n Saesneg yn anarferol.
Tresor yw'r ail albwm i Gwenno ryddhau gyda'r mwyafrif o ganeuon yn cael eu canu yng Nghernyweg, ac mae'n credu nad yw'r gynulleidfa wir yn cael eu gwthio i ffwrdd gan iaith nad ydyn nhw yn ei ddeall.
"Dyna pam ydw i mor hyderus yn defnyddio'r ieithoedd sy' da fi sy' ddim o reidrwydd yn ieithoedd cyfarwydd i bawb sy'n eu clywed nhw," meddai, "achos dwi'n gwybod bod cerddoriaeth yn iaith ryngwladol pobl.
"Felly does wir ddim ots pa iaith chi'n canu ynddi achos os chi'n canu yn eich iaith chi, iaith fwya' naturiol i chdi, chi'n dueddol o allu mynegi eich hunain mor onest a allwch chi.
"A hwnna 'di'r peth chi'n teimlo mewn cerddoriaeth, boed o'n iaith ti'n ddeall neu ddim."
Cyn y seremoni wobrwyo enillydd Gwobr Mercury 2022 mae gan Gwenno a'r band ddigon i'w cadw'n brysur.
"Mae na lot o gyffro i ddod," meddai.
"Ma' 'na lot o ymarfer i 'neud, ni mynd i fod ar daith drwy gydol mis Medi, chwarae yng Nghaerdydd a Bethesda so ma' na' eitha' lot o waith i 'neud rhwng nawr a Medi, felly digon i feddwl am a digon i cadw ni i beidio gor-feddwl y peth hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2019
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2018