Cyhuddo'r llywodraeth o 'wastraffu tir da' i blannu coed

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Jac Williams: Llywodraeth Cymru'n "gwastraffu tir da" trwy blannu coed

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o "wastraffu" tir amaethyddol da i blannu coed - a mynd yn groes i addewid i beidio gwneud hynny ar draul ffermwyr.

Mewn un achos y llynedd fe brynodd y llywodraeth 27 acer o dir ar Ynys Môn, a hynny er mwyn plannu coedwig fel rhan o'u hymdrechion i daclo newid hinsawdd.

Ond mae BBC Cymru wedi siarad gyda dau ffermwr wnaeth hefyd wneud cynigion am y tir, ac sy'n cyhuddo'r llywodraeth o gynnig "crocbris" er mwyn eu prisio nhw allan.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cynnig pris marchnad teg" wrth brynu tir, ac mai ar "ganran fechan iawn" o dir Cymru yr oedd hyn yn digwydd beth bynnag.

Coedwig i ddathlu'r Jiwbilî

Mae Jac Williams, 28, yn ffermio darn o dir ger Llanddeiniolen yng Ngwynedd, ac yn un o'r rhai wnaeth gynnig llynedd i brynu tir Tyn Mynydd ger Porthaethwy er mwyn gallu cadw mwy o anifeiliaid.

Ar ôl colli mewn ocsiwn seliedig, daeth i wybod mai Llywodraeth Cymru oedd wedi prynu'r tir - a hynny er mwyn tyfu coed arno yn lle.

Mae'r safle, sydd gyferbyn ag atyniad Pili Palas ym Mhorthaethwy, nawr yn cael ei redeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), a bydd y goedwig yno'n rhan o Ganopi Gwyrdd y Frenhines i ddathlu'r Jiwbilî eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Llywodraeth Cymru yw plannu coed ar dir Tyn Mynydd ger Porthaethwy ar Ynys Môn

Dywedodd Mr Williams ei fod wedi cynnig "pris go lew" am y safle, a bod yr £14,000 yr acer a dalodd y llywodraeth am y safle yn llawer uwch na phris y farchnad.

"Maen nhw efo unlimited funds dydi," meddai. "Dim ots faint 'da chi'n gynnig, maen nhw am outbid-io chi, dim ots be maen nhw isio'r tir."

Ychwanegodd bod gweld tir amaethyddol o'r fath yn cael ei droi at bwrpas arall yn ergyd bellach iddo.

"Tir Ynys Môn ydy rhai o'r tir gorau o gwmpas, 'sa ti'n gallu tyfu cropiau yna. Gwartheg a defaid o'n i am roi yna, tyfu silage... i ffeindio allan bod nhw isio rhoi coed yna, mae'n wast o dir.

"Mae'n iawn i blannu coed lle ti methu cynhyrchu bwyd a livestock, ond peidiwch â phlannu coed lle mae'r tir gorau, a gallwch chi 'neud rhywbeth efo fo.

"Munud mae 'na goed yna, ti methu mynd yn ôl."

'Llywodraeth ein hunain yn mynd yn ein herbyn'

Mae BBC Cymru hefyd wedi siarad â ffermwr arall o'r ardal, sydd am aros yn ddienw, wnaeth gyflwyno cynnig am y tir a hynny am "dendr reit deg".

"Dwi heb glywed am dir yn mynd am bris fel 'na ffordd hyn o'r blaen," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Saif Tyn Mynydd ger yr atyniad teuluol boblogaidd, Pili Palas

"Y bwriad oedd ehangu'r fferm, ac isio gallu gwneud o'n llawn amser. 'Dan ni'n trio dod yn ein blaenau, ac mae'n llywodraeth ein hunain yn mynd yn ein herbyn ni.

"Pa chance 'sgena chi yn erbyn rheina?"

Fis diwethaf, yn ystod cyfarfod o bwyllgor amgylchedd y Senedd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters nad oedd wedi gweld tystiolaeth "ein bod ni'n cynnig mwy na ffermwyr ifanc yn eu cymunedau" am ddarnau o dir.

Ychwanegodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James yn ystod yr un pwyllgor fod hyn "ddim yn rhyfel" yn erbyn ffermwyr.

"Mae hyn yn golygu sicrhau, gyda'n gilydd yng Nghymru, ein bod ni'n tyfu bwyd yn y llefydd iawn, coed yn y llefydd iawn, glaswelltir yn y llefydd iawn," meddai.

'Talu pris andros o uchel'

Ond mae Cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru wedi datgelu bod Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru wedi prynu pum darn o dir amaethyddol ers 2018 er mwyn creu coedwigoedd, gan gynnwys y safle ar Ynys Môn.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, llefarydd y blaid ar faterion gwledig, mae hynny'n profi mai "celwydd" oedd sylwadau blaenorol Llywodraeth Cymru am beidio herio ffermwyr pan mae'n dod at brynu tir amaethyddol.

"Nid yn unig mae ffermwyr fel Jac wedi cael ei brisio allan, ond mae'r llywodraeth wedi talu pris andros o uchel, yn fwy na'r cyffredin, amdano fo, gan brisio pawb arall allan hefyd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mabon ap Gwynfor: "Nid tir amaethyddol da ydy'r tir i blannu coed"

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ffermwyr o blannu coed ar 10% o'u tir, ond yn ôl Mr ap Gwynfor mae hynny'n "codi cwestiynau" pellach.

"Mae angen plannu coed fel rhan o'r ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd, ac mae 'na dir ar gyfer hynny, ond nid tir amaethyddol da ydy'r tir i blannu coed," meddai.

"Yn ogystal â hynny mae posib cydweithio efo'r gymuned amaethyddol er mwyn adnabod y darnau o dir yna ar eu ffermydd nhw lle na fedran nhw gynhyrchu bwyd arno fo, ac hwyrach sy'n well ar gyfer plannu coed.

"Ond mae'n golygu cydweithio efo amaethwyr, nid dod i mewn o'r top a gorfodi pethau ar gymunedau."

'Cymryd cyfleoedd oddi wrth ffermwyr'

Darn arall o dir gafodd ei brynu gan Lywodraeth Cymru'n ddiweddar oedd Stad Brownhill ger Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, a hynny er mwyn plannu coedwig goffa i'r rheiny fu farw o Covid.

Ond yn ôl Rachel Evans o'r Gynghrair Cefn Gwlad, sydd hefyd yn byw yn Llangadog, mae'n esiampl arall o'r llywodraeth yn "cymryd cyfleoedd oddi wrth ffermwyr".

"Ddylen nhw ddim fod yn prynu'r tir gorau - mae digon o ddarnau eraill o dir, tir mwy caled, ucheldir ac iseldir, allai gael ei ddefnyddio i blannu coed," meddai.

"Beth maen nhw'n ei wneud yw creu rhwyg dyfnach rhwng y gymuned amaeth a Llywodraeth Cymru, a fi wir yn teimlo bod nhw'n peryglu dyfodol yr economi wledig fan hyn."

Mae'r targedau plannu coed yn rhai "uchelgeisiol", meddai Dr Prysor Williams o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, ac mae hynny wedi arwain at "densiynau" gyda rhai amaethwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Prysor Williams: "Bydd hi'n amhosib i Lywodraeth Cymru brynu'r tir i gyrraedd y targedau yma"

"Mi fydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gael ffermwyr ar eu hochr nhw os ydyn nhw am gyrraedd y targedau," meddai.

"Yn y bôn bydd rhaid i lot o'r coed yma fynd ar dir amaethyddol. Y cwestiwn ydy lle ydy'r lle gorau i roi'r coetir yna.

"Felly 'dan ni'n debygol o weld clystyrau o Gymru lle 'dan ni'n gweld llawer mwy o goetir, a falle ardaloedd eraill o Gymru lle ychydig iawn o goetir ychwanegol fydd yna.

"Ond yn y bôn bydd hi'n amhosib i Lywodraeth Cymru brynu'r tir i gyrraedd y targedau yma - bydd rhaid iddo ddigwydd law yn llaw efo'r diwydiant amaethyddol."

Beth ydy ymateb Llywodraeth Cymru?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd y tir ei brynu drwy ocsiwn dan sêl. Wrth brynu tir, mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n cael eu harwain gan y gwerth sy'n cael ei gymeradwyo gan y prisiwr rhestredig.

"Er ein bod ni eisiau i'r rhan fwyaf o goed gael eu plannu gan y tirfeddianwyr presennol, mae rôl gan CNC wrth brynu tir pan mae hynny'n helpu i gwrdd a blaenoriaethau strategol.

"Mae hyn yn cynnwys canran fechan iawn o dir yng Nghymru, a phan mae hyn yn digwydd, mae CNC yn cynnig pris marchnad teg, yn dryloyw a ddim yn gwneud hynny mewn ffordd ymosodol.

"Maen nhw'n canolbwyntio ar barseli o dir (yn hytrach na ffermydd cyfan) sy'n agos neu'n ffinio gyda'r Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru presennol."