Targedau plannu coed yn 'fwch dihangol', medd gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Lee Waters
Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna bryder ond dim llawer o dystiolaeth fod buddsoddwyr yn prynu tir," medd Lee Waters

Mae targedau plannu coed Cymru'n cael eu defnyddio fel "bwch dihangol" ar gyfer pryderon eraill o fewn cymunedau ffermio, yn ôl y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Fe wnaeth yr AS Lee Waters gydnabod fod "pryder dilys" am fuddsoddwyr y tu hwnt i Gymru yn prynu tir fferm er mwyn plannu coed i wneud yn iawn am eu hallyriadau carbon.

Ond dywedodd mai "ychydig iawn o dystiolaeth sydd yna fod hyn yn digwydd", a bod Llywodraeth Cymru'n dymuno "ei atal rhag digwydd".

Dywedodd NFU Cymru "mae angen i ni boeni gan fod hyn yn broblem gynyddol".

Mae Llywodraeth Cymru, wnaeth ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019, wedi dweud y bydd angen iddynt blannu 86 miliwn o goed erbyn diwedd y degawd er mwyn cyrraedd eu targed sero net erbyn 2050.

Ond mae undebau ffermio yn dweud y dylai unigolion a chwmnïau leihau eu hallyriadau carbon, yn hytrach na cheisio "cyrraedd sero net trwy wneud yn iawn am eu hallyriadau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn poeni fod buddsoddwyr allanol yn targedu tir amaeth yng Nghymru

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, fe ddaeth 75% o'r cynlluniau mwyaf i blannu coed ar dir Cymreig dros y tair blynedd diwethaf o du allan i Gymru.

Mae'n rhaid asesu effaith amgylcheddol unrhyw gais i blannu dros 50 hectar o goetir yng Nghymru - sef maint tua 93 o gaeau pêl-droed.

Ond dywed Undeb Amaethwyr Cymru mai dim ond 25% o'r ceisiadau hynny sy'n dod gan berchnogion tir yng Nghymru.

'Dihiryn pantomeim cyfleus'

Wrth siarad gyda BBC Radio Wales, dywedodd yr AS Lee Waters: "Mae'r dystiolaeth sydd gennym ni hyd yma o'r nifer o ffermydd sy'n cael eu prynu a cheisiadau am grantiau yn fach iawn, iawn.

"Ond nid yw hynny'n golygu na allai hynny ddigwydd, ac rydyn ni'n dymuno atal hynny rhag digwydd.

"Fe fyddai'n well, dwi'n meddwl, petai'r bobl sy'n lleisio'r pryderon hyn yn gweithio gyda ni i geisio rheoli'r newid yn hytrach na gwrthwynebu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plannu coed yn cynnig llif incwm newydd i ffermwyr, meddai Mr Waters

"Yn sicr mae yna deimlad o bryder am sawl rheswm," ychwanegodd.

Dywedodd cwmni gwerthu eiddo Savills ei fod wedi cysylltu gyda ffermwyr yng Nghymru yn uniongyrchol ar ran buddsoddwyr sy'n dymuno prynu tir er mwyn gwneud yn iawn am eu hallyriadau carbon.

"Mi fuaswn i'n dweud wrth gwmnïau fel Savills, pwyllwch" meddai Mr Waters.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Galwodd Mr Waters ar y rheiny sy'n bryderus am blannu coed i weithio gyda'r Llywodraeth

"Yr hyn rydyn ni ei eisiau yw i ffermwyr Cymreig arwain y ffordd yn fan hyn, i berchnogion Cymreig blannu'r coed, ac i berchnogaeth a rheolaeth aros yn lleol.

"Mae yna lawer o bryder yn dod gan gymunedau ffermio am newid, ond rydyn ni'n cymryd golwg rhy ffafriol ar y presennol - incwm fferm ar gyfartaledd gyda chymorthdaliadau o'r UE yw £16,000 y fferm.

"Felly rydyn ni wedi bod yn noddi ffermwyr i mewn i dlodi, ac mae plannu coed sydd wedi ei reoli'n iawn ar y cyd â chynhyrchu bwyd yn cynnig llif incwm newydd."

'Allforio buddion carbon Cymru'

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu yn y lle cywir, meddai NFU Cymru

Wrth ymateb i sylwadau Mr Waters ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Abi Reader o NFU Cymru: "Dwi'n meddwl y gallen ni gytuno gyda Lee Waters fod angen i ffermwyr blannu coed, ac yn NFU Cymru rydyn ni'n credu cyn belled â bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lle cywir ar ffermydd maen nhw'n gallu bod o fudd i ni ac i'r gymdeithas.

"Ond rhaid i ni fod yn gwbl ymwybodol ein bod ni yn allforio'r buddion carbon sydd gennym ni yma yng Nghymru i gwmnïau mwy."