Gemau'r Gymanwlad: Evans a Thomas i gludo baner Cymru
- Cyhoeddwyd
Y seiclwr Geraint Thomas a'r chwaraewr sboncen Tesni Evans fydd yn cludo baner tîm Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham.
Dyma fydd y tro cyntaf i ddau aelod o'r tîm arwain eu cyd-athletwyr yn seremoni agoriadol y Gemau, cyn 11 diwrnod o gystadlu.
Gan longyfarch y ddau dywedodd Nicki Phillips, Chef de Mission Tîm Cymru eu bod "yn athletwyr hynod lwyddiannus yn eu campau ac yn lysgenhadon rhagorol i Gymru".
"Mae cludo'r faner o flaen y tîm yn anrhydedd sy'n cydnabod perfformiad ac agwedd ac mae gyda ni barch a mawr ddiolch i'r ddau athletwr yma."
'Rhywbeth y byddaf yn ei drysori'
Cyn mynd ymlaen i ennill Tour de France, fe enillodd Thomas y ras ffordd yng Ngemau 2014 yn Glasgow ac mae'n cystadlu yn yr un ras, a'r ras yn erbyn y cloc, y tro hwn, a hynny ar ôl gorffen yn drydydd yn y Tour eleni.
Fe gipiodd Evans fedal efydd yn senglau'r merched ar Arfordir Aur Awstralia yn 2018, gan olygu mai hi oedd y chwaraewr sboncen benywaidd cyntaf i ennill medal yn y Gemau dros Gymru.
Roedd ennill medal aur yn Glasgow 2014, meddai Geraint Thomas "ymhlith un o ddiwrnodau gorau fy ngyrfa", a "mae cystadlu mewn crys Cymru eto yn mynd i fod yn arbennig iawn".
Dywedodd Tesni Evans bod hi "methu credu" ei bod wedi cael ei dewis i gludo'r faner, gan ei ddisgrifio'n "anrhydedd ac yn fraint".
Ychwanegodd y bydd "cerdded gyda Geraint ac arwain yr holl dîm yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022