Pryder bod gwylanod 'yn cael eu lladd' ym Miwmares
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Ynys Môn wedi disgrifio'i sioc a gofid ar ôl dod ar draws nifer o wylanod y mae hi'n credu a gafodd "eu lladd neu eu hanafu'n fwriadol" ym Miwmares.
Yn yr achos diweddaraf, ar ffordd Little Lane yr wythnos hon, cafwyd hyd i wylan fenywaidd yn agos at farw, ei choesau wedi'u torri ac esgyrn i'w gweld, a'i chyw marw gerllaw.
Dywed y ddynes, sy'n dymuno aros yn ddienw, ei bod wedi dod ar draws pum aderyn marw, gan gynnwys cywion, yn y misoedd diwethaf, ynghyd â naw o wyau oedd wedi eu symud o'u nythod.
Ym mis Mai, daeth ar draws gwylan yn gorwedd gyda'i gwddf wedi ei dorri, a nythod o wyau wedi eu dinistrio ym mynwent Eglwys Y Santes Fair a San Niclas.
Cadarnhaodd y Parchedig Canon Robert Townsend bod gwylanod yn nythu wedi eu canfod yn farw yno rai misoedd yn ôl.
Cafodd yr heddlu eu galw, gan drefnu i'r wylan gael ei harchwilio. Yn ôl yr heddlu, fe ddaeth i'r amlwg bod ffliw adar ar y wylan, a bu'n rhaid stopio unrhyw archwilio pellach.
'Mae'n ofnadwy'
Mae'r ddynes yn apelio ar drigolion ac ymwelwyr i roi gwybod i'r awdurdodau os ydyn nhw'n gweld unrhyw un yn achosi niwed i'r adar, sydd dan warchodaeth.
"Mae rhywun yn eu lladd yn fwriadol, ond maen nhw'n rhywogaeth dan warchodaeth," meddai.
"Dwi eisiau i bobl gadw eu llygaid ar agor a chodi ymwybyddiaeth am beth sy'n mynd ymlaen.
"Mae'n achosi gofid mawr bod hyn yn digwydd ym Miwmares. Mae rhywun yn eu lladd nhw. Mae'n ofnadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiad ar 27 Mai bod "gwylan wedi ei lladd ym mynwent Eglwys y Santes Fair a San Niclas, Biwmares" a bod "wyau nyth cyfagos hefyd wedi eu cymryd".
Ymwelodd swyddogion â'r fynwent "a chymryd yr aderyn, sydd ers hynny wedi cael ei archwilio gan Lywodraeth Cymru".
Yn sgil yr archwiliad hwnnw, daeth i'r amlwg bod ffliw adar ar y wylan ac "oherwydd y risg, daeth pob archwiliad pellach i stop".
'Mae'n drosedd'
Dywedodd y Cwnstabl Matt Raymond o Dîm Troseddau Cefn Gwlad y llu: "Yn anffodus, bu dim trywydd ymholi pellach i brofi pwy gyflawnodd y drosedd yma.
"Mae pob aderyn gwyllt yn cael eu gwarchod yn gyfreithiol gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Cefn Gwlad 1981.
"Mae'n drosedd i ladd ac anafu aderyn gwyllt, cymryd eu hwyau a difrodi nythod byw."
Mae'r Cwnstabl Raymond yn cynghori pobl i gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion os ydyn nhw'n dod ar draws gwylanod marw "yn enwedig os oes dim arwydd clir o anaf" yn sgil y risg o'r ffliw adar.
Mae hefyd modd cysylltu gyda'r heddlu "os rydych yn amau trosedd".
Dywedodd y ddynes a gododd y pryderon: "Roedd yr aderyn oedd wedi ei anafu yn Little Lane yn edrych fel petae rhywun wedi mynd â cherbyd drosto'n fwriadol.
"Roedd o'n erchyll. Nes i drio'i hachub. Nes i olchi ei choesau oedd wedi torri. Ro'n i'n gallu gweld ei hesgyrn. Nes i gysylltu gyda'r RSPB a dwi'n cymryd eu bod wedi ei symud o 'na i'w difa.
"Mae pobl angen gwybod bod gwylanod yn adar deallus. Roedd yr adar yn y fynwent, yn gall, wedi dodwy wyau ble mae'r haul yn cynhesu'r cerrig bedd.
"Ro'n i'n digwydd cerdded heibio. Weles i fam aderyn yn gorwedd ar y gwair, ei gwddf wedi torri, ei hwyau wedi eu dwyn. Roedd o'n frawychus.
"Roedd dau aderyn arall wedi mynd hefyd, a'u hwyau o'u nythod - y cyfan wedi mynd. Mae'r bobl greulon sy'n 'neud hyn yn waeth o lawer na jest fandaliaid."
"Mae gan rai pobl berthynas love-hate hefo gwylanod," meddai'r Parchedig Canon Robert Townsend.
"Mae'r adar yn gallu bod yn warchodol iawn, yn enwedig pan fo cywion ifanc o gwmpas.
"Yn anffodus mae rhai'n meddwl bod hi'n dderbyniol i'w lladd, ond dydy hi byth yn gywir i wneud hynny.
"Yr hyn sydd ei angen ydy addysg o ran sut i gydfyw â nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2018