Rhybudd ac apêl gan deulu bachgen fu farw yn Afon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen 13 oed a fu farw yn Afon Taf yn poeni y bydd rhagor o ddigwyddiadau tebyg.
Bu farw Aryan Ghoniya ym mis Mehefin ar ôl mynd i drafferthion yn yr afon tra'n chwarae gyda'i ffrindiau.
Roedd tad un o'i ffrindiau wedi ceisio'i achub, ond cafodd ei rwystro rhag gwneud hynny gan sbwriel, yn cynnwys trolïau siopa, yn y dŵr.
Mae ei deulu'n galw am lanhau'r afon er mwyn helpu i atal digwyddiadau o'r fath.
Bachgen disglair
O'i gymharu â gweddill y DU, mae bron i ddwywaith cymaint o bobl yn boddi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddar.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd teulu Aryan, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Radur, ei fod yn fachgen disglair a hynod alluog, a oedd yn ceisio cyflawni record byd am gwblhau'r Rubik's cube.
Dywedodd Vimla Patel, perthynas i'r teulu: "Mae'n amser anodd iawn i'r teulu yn eu galar, yn enwedig i'w rieni Hina a Jitu a'i chwaer Naviya.
"Ond ar adegau fel hyn yr ydym yn gweld y daioni mewn pobl a chymunedau."
Mae teulu Aryan yn erfyn ar blant i beidio cael eu temtio i nofio yn ystod tywydd poeth.
"Roedd Aryan fel unrhyw fachgen ifanc arall - cariadus, gofalgar ac anturus. Mae ei farwolaeth drasig tra'n nofio yn Afon Taf wedi chwalu ein teulu a'r gymuned," meddai Ms Patel.
"Mae ei rieni a'r teulu yn dal i geisio dod i delerau â'r drasiedi hon ac yn cynghori pawb i fod yn ofalus tra'n nofio mewn dyfroedd sydd ddim yn adnabyddus iddyn nhw, yn enwedig os nad oes achubwyr bywyd yn goruchwylio."
Ychwanegodd Ms Patel fod y teulu'r crefu ar eraill i beidio nofio mewn afonydd neu leoliadau anniogel eraill er mwyn osgoi mynd drwy'r "gofid a'r boen" y maent wedi'i ddioddef.
"Rydym yn ofni nad marwolaeth Aryan fydd yr olaf."
Yn ystod agoriad y cwest i farwolaeth Aryan, clywodd Llys Crwner Pontypridd bod archwiliad post-mortem yn nodi "tansuddiad" (immersion) fel achos marwolaeth rhagarweiniol.
Clywodd y cwest fod ffrindiau'r bachgen wedi ffonio 999.
Ym mis Mai, bu farw Kane Edwards, 13 oed, ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Tawe, Abertawe.
Ar gyfartaledd mae tua 45 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn mewn digwyddiadau'n ymwneud â dŵr, gyda chyfartaledd o 600 o bobl ar draws y DU, yn ôl ffigyrau Diogelwch Dŵr Cymru.
Mae nifer anghymesur o uchel o bobl yn boddi'n ddamweiniol yng Nghymru a'r Alban o ystyried poblogaeth y ddwy wlad, yn ôl Strategaeth Atal Boddi y DU.
Mae hyn yn rhannol oherwydd twristiaeth a nifer y bobl sy'n byw yn ymyl dŵr.
Mae'r strategaeth yng Nghymru'n datgan: "Mae'r raddfa sy'n boddi yng Nghymru bron i ddwbl graddfa'r DU."
Yn 2018, bu farw mwy o bobl trwy foddi damweiniol na mewn tanau, damweiniau beicio a beic modur, neu ddamweiniau yn y gweithle, yn ôl y ddogfen.
Mae teulu Aryan wedi galw am wella diogelwch yng Nghymru.
Meddai Ms Patel: "Byddai'r teulu'n hoffi gweld newidiadau a mesurau diogelwch ychwanegol yn dod i mewn ger afonydd a dyfroedd eraill. Byddwn hefyd yn hoffi gweld arwyddion addas ger yr afon."
Mae'r teulu hefyd wedi datgelu'r ymdrechion a wnaed i achub Aryan.
"Neidiodd tad ffrind Aryan i'r dŵr i'w achub ond daeth ar draws llawer o sbwriel yn Afon Taf megis trolïau, olwynion a darnau metel," meddai Ms Patel.
"Hoffem ofyn i'r cyhoedd beidio taflu eitemau o'r fath i'r afon ac i'r awdurdodau lanhau'r afon mewn ymdrech i achub bywydau."
Mae'r teulu'n dymuno gweld rhieni ac ysgolion yn helpu pobl ifanc i ddeall y peryglon o nofio mewn mannau anniogel, ac i ysgolion wneud mwy i ddysgu pob plentyn i nofio.
Nod Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026 ydy haneru nifer y marwolaethau trwy foddi damweiniol erbyn 2026.
Mae'r corff hefyd yn chwarae rhan mewn darparu gwybodaeth ddwyieithog am ddiogelwch dŵr mewn cymunedau lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2022