Eisteddfod Arwyn 'Herald': 40 mlynedd o dynnu lluniau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwyn RobertsFfynhonnell y llun, Eryl Crump
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwyn Roberts wedi bod yn tynnu llyniau i rai o bapurau newydd y gogledd am dros 40 mlynedd

Heblaw am y Pafiliwn a'r Babell Lên, mae'n debyg mai un o'r golygfeydd mwyaf cyfarwydd ar unrhyw faes Eisteddfod dros y 40 mlynedd diwethaf yw Arwyn 'Herald' Roberts a'i gamera.

Rhwng 1979 a 2019 mynychodd bob un Eisteddfod Genedlaethol o Fôn i Fynwy, wrth groniclo hynt a helynt cystadlaethau'r llwyfan i amryw o bapurau newydd y gogledd.

Aeth ymlaen i gael ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod 2005, a hynny ar stepan ei ddrws ar Stad y Faenol, nepell o'i gartref yn Rhosgadfan ger Caernarfon.

Yn cydnabod fod y brifwyl wedi chwarae rhan mawr o'i yrfa newyddiadurol, ac hefyd hawlio lle mawr yn ei galon, ar gyfer Cymru Fyw mae Arwyn wedi edrych yn ôl dros 40 mlynedd o luniau gan ddewis rhai o'i ffefrynnau.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Arwyn Roberts, yma hefo'i fam, ei urddo yn 2005 am chwarter canrif o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol a 30 mlynedd o wasanaeth i newyddiaduraeth

Mae'r Eisteddfod wedi bod yn blatfform i gymaint o dalentau ifanc dros y blynyddoedd, ac mae wedi bod yn fraint i mi allu rhannu rhai o'u llwyddiannau.

Ond efallai hyd yn oed yn bwysicach, mae'r Eisteddfod hefyd yn le sy'n cadw Cymreictod a'r diwylliant Cymraeg i fynd.

Mae wedi bod yn fraint bod yn ran ohono dros 40 mlynedd ac mae wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd, ac mae'n hawlio lle mawr yn fy nghalon.

Gwneud argraff

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Hughes Jones, y tenor o Fôn

Dwi'n cofio Gwyn Hughes Jones yn cystadlu yn Eisteddfod Porthmadog yn 1987, yn hogyn ifanc o dan ei 21 oed ar y pryd.

Ond sbïwch lle mae o erbyn heddiw? Er hynny mae o wastad wedi bod yn hen hogyn iawn.

Dwi 'di gweld sawl artist dros y blynyddoedd sydd wedi mynd ymlaen i fod yn adnabyddus yn fyd eang, sy'n deimlad braf ac yn destun balchder.

Siwrnai i'r brig

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Jim Parc Nest, neu T. James Jones, yn ennill y Goron yn Eisteddfod Casnewydd 1988

Dyma'r ail Goron i Jim Parc Nest ei hennill o fewn cyfnod byr iawn, a'r cam cyntaf ar ei daith i fod yn Archdderwydd.

'Nath o'm yn rhy ddrwg yn y pendraw naddo?!

Cartref newydd

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y Ddawns Flodau yn ystod y 1980au

Eisteddfod Porthmadog 1987 oedd yr olaf i ddefnyddio'r hen bafiliwn, a roedd dal yn sefyll yno wedi'r Eisteddfod am tua wyth mlynedd dwi'n siŵr.

Dros y blynyddoedd mi alla'i gyfri naw pafiliwn o wahanol siâp a lliw sydd wedi eu defnyddio, o sied wartheg i Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd!

Gwlad y Rwla

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Tomos yng nghwmni rhai o gymeriadau Gwlad y Rwla, wedi iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod 1991

Dyma Angharad Tomos wedi iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Bro Delyn 1991.

Os dwi'n cofio'n iawn mi fuodd na ymgyrch Cymdeithas yr Iaith ar y maes yn gynharach yn y diwrnod, ac mi oedd na farc cwestiwn os byddai'n gallu mynychu'r seremoni o gwbl.

Drwy lwc mi aeth bob dim yn iawn yn y pendraw!

'Dy batsh di'

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Meirion MacIntyre Huws, o Gaernarfon, oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993

Ar gae y Sioe Frenhinol oedd Eisteddfod Genedlaethol 1993, oedd 'chydig yn wahanol. Dwi'n cofio'n iawn mai'r beirniad ar gyfer y gadair y flwyddyn honno oedd Gerallt Lloyd Owen.

Tra'n disgwyl i'r seremoni ddechra' mi es allan o'r pafiliwn a dyna lle oedd Gerallt yn cael smôc.

"Be ti'n da yma?", medda fo wrtha'i, "Dos i fewn rŵan, mae 'na hogyn o dy batsh di wedi curo!"

Yn sicr i chi mi es i fewn a roeddwn wrth fy modd i weld fod Mai Mac wedi curo. Dwi'n siŵr mai fo oedd un o'r ieuengaf, os nad yr ieuengaf, i gyflawni hynny ar y pryd.

Peiriant cynhyrchu talent

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Côr Glanaethwy yn fuan wedi'i sefydlu

Dwi 'di dilyn Glanaethwy, Ysgol Glanaethwy erbyn hyn wrth gwrs, ers yr 1980au.

Mae 'na dalentau ifanc cryf wedi bod drwy Glanaethwy dros y blynyddoedd, a dwi'n cofio mynychu eu sesiwn ymarfer gyntaf yng Ngholeg Normal, Bangor.

Fydda'i wrth fy modd gweld talentau yn datblygu ac yn mynd ymlaen i wneud enw iddyn nhw eu hunain ar draws sawl maes.

Canwr y Byd

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddiant i Emyr Lloyd Jones yn Eisteddfod y Fenni 2016

Dwi'n 'nabod Emyr ers mae o'n ddim o beth, ac mae ei lais wedi datblygu gymaint dros y blynyddoedd.

Dyma fo yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, erbyn hyn wedi mynd ymlaen i ennill cystadleuaeth Canwr y Byd yn Llangollen wrth gwrs.

Mae o'n hogyn hyfryd, annwyl dros ben ac allaf ond feddwl am ei ewyrth a'i ffan pennaf, y diweddar Huw Tacsi o Lanwnda, bob tro fyddai'n ei glywed.

Bachgen o Bant Glas

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Terfel yn ystod Eisteddfod Porthmadog 1987

Mae'r llun yma o 1987, sef yr Eisteddfod olaf i Bryn Terfel gystadlu ynddi cyn mynd ymlaen i wneud enw i'w hun yn fyd eang wrth gwrs.

Dwi'n ei 'nabod ers oedd o'n 16 oed ac yn brif ddisgybl Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn ffeindio'i draed ar lwyfan yr Urdd a'r Genedlaethol.

Mae ei wreiddiau'n parhau'n ddyfn yn yr ardal lle'i fagwyd.

Y byd a'r betws

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Roedd seremoni flynyddol Cymru a'r Byd yn denu pobl o bedwar ban byd

Fe wnaed i ffwrdd 'efo seremoni Cymru a'r Byd rhai blynyddoedd yn ôl bellach, ond roedd yn gyfle i bobl o bob cwr o'r byd i ddod 'adra' fel petai.

Dwi yn meddwl fod o'n golled i raddau, er fod rhai yn teimlo fod o wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Dwi'n cofio un flwyddyn, pan oeddan nhw'n galw allan yr Unol Daleithiau - oedd wastad gyda mwy o ymwelwyr na unrhyw wlad arall - a welish i rhywun oeddwn yn ei adnabod yn iawn yn sefyll i fyny 'efo'r gweddill.

Wna'i ddim enwi'r person, ond nes i ofyn iddyn nhw wedyn pam oeddan nhw yn esgus dod o America, yr ateb oedd: "Wel, fues i yna am fis do?!"

Brwydr y bandiau

Ffynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Seindorf yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog, yn Eisteddfod Llanelwedd 1993

Un o uchafbwyntiau penwythnos cynta'r Eisteddfod ydy'r cystadlaethau bandiau pres.

Ers talwm mi oedd 'na bafiliwn o fewn pafiliwn, gyda'r beirniaid yn eistedd mewn rhyw fath o portaloo fel na allan nhw weld pwy oedd y band ar y llwyfan, ond mae'r drefn yna wedi diflannu bellach.

Er hynny mae'r bandiau yn parhau i chwarae rhan annatod o benwythnos cynta'r Eisteddfod ac yn denu pobl fysa ddim o bosib yn mynychu'r Eisteddfod o gwbl fel arall.