Carcharu dyn am ladd dynes ifanc tra'n gyrru'n feddw

  • Cyhoeddwyd
Abby HillFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Abby Hill adeg ei marwolaeth y llynedd ei bod yn "megis dechrau gwneud ei marc yn y byd"

Mae dyn wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis am achosi marwolaeth dynes ifanc 19 oed o Wrecsam tra'n gyrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol.

Roedd Marcus Pasley, 26, o Lantysilio ger Llangollen, eisoes wedi pledio'n euog o achosi marwolaeth Abby Hill o Acrefair yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Berwyn fis Gorffennaf 2021.

Roedd Ms Hill yn teithio yn Renault Clio Pasley pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Gwesty'r Chainbridge, ble roedd y ddau yn gweithio.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty ond bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Dau wydraid o win a chwe pheint

Wrth roi teyrnged iddi ar y pryd dywedodd ei theulu ei bod ar fin "camu i'r byd yn ddynes gref ac annibynnol" a "bod ei phersonoliaeth wastad yn dod i'r amlwg yn y cyfan a gyflawnai".

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Pasley wedi yfed dau wydraid o win a chwe pheint o lager a stout oriau cyn y gwrthdrawiad.

Yn y llys darllenwyd datganiad gan Jemma, chwaer Abby, ar ran y teulu a oedd yn dweud: "Fydd dyddiau Nadolig, pen-blwydd, Pasg a Sul y Mamau a'r Tadau fyth yr un fath yn sgil gweithredoedd di-hid unigolyn hunanol.

"Gorwedd mewn hedd Abby - doedd hi ddim yn bryd i ti ein gadael ni.".

Wrth ddedfrydu dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Am wastraff dianghenraid ac ofnadwy o fywyd bendigedig merch, wyres, chwaer a ffrind a oedd yn cael ei charu'n fawr.

"Mae clywed effaith ei marwolaeth ar y teulu yn dorcalonnus."

Pynciau cysylltiedig