Chwaraewyr Abertawe i stopio penlinio cyn gemau
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Abertawe wedi datgan na fydd chwaraewyr yn penlinio cyn gemau y tymor hwn - arfer a ddaeth yn gyffredin i ddatgan gwrthwynebiad i hiliaeth yn sgil llofruddiaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau yn 2020 .
Mae chwaraewyr y clwb wedi penlinio cyn bob gêm ers hynny ac mae'r clwb yn dweud "nad ar chwarae bach" y penderfynwyd i stopio'r arfer nawr.
Dywed datganiad y clwb bod "anffafriaeth o unrhyw fath yn atgas a doed dim lle iddo o fewn pêl-droed nag o fewn cymdeithas".
Ychwanegodd bod y clwb "yn parhau i gefnogi'n gadarn yr hyn y mae penlinio'r ei gynrychioli" a bod yr arfer "yn ddi-os wedi helpu codi ymwybyddiaeth a sbarduno sgyrsiau am sut i waredu hiliaeth o'r gêm rydym oll yn ei charu".
Ond erbyn hyn mae'r clwb yn dymuno dangos eu hymroddiad i gydraddoldeb ac amrywioldeb mewn "ffyrdd amgen" ac yn "teimlo bod angen rhywbeth dyfnach na phenlinio bob tro rydym yn chwarae".
Ychwanegodd hyfforddwr y tîm, Russell Martin bod y chwaraewyr yn teimlo nad ydi penlinio "â'r un impact [erbyn hyn], ddwy flynedd yn ddiweddarach" a bod stopio penlinio ddim yn golygu "nad ydyn nhw'n credu ynddo".
Dywed y clwb eu bod wedi cael profiad uniongyrchol o "effaith ddinistriol camdriniaeth hiliol" wedi i sawl aelod o'r garfan - gan gynnwys Yan Dhanda, Ben Cabango a Rabbi Matondo gael eu targedu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yn Ebrill 2011 fe benderfynodd y clwb i osgoi'r cyfryngau cymdeithasol am wythnos gyfan mewn safiad yn erbyn sylwadau hiliol ar-lein.
Yn y cyfamser, mae clybiau Caerdydd a Chasnewydd wedi dweud wrth adran chwaraeon y BBC y bydd eu chwaraewyr nhw yn parhau i benlinio cyn gemau y tymor hwn.
Mewn neges ar wefan yr Adar Gleision, dywed chwaraewyr y clwb eu bod "wedi gofyn am danlinellu i gefnogwyr ar drothwy'r tymor newydd nad ystum gwleidyddol mod hwn, ond oherwydd eu bod eisiau helpu cadw'r drafodaeth yn fyw yn sgil hiliaeth, anghydraddoldeb ac anffafriaeth o fewn pêl-droed a chymdeithas".
Dywed y datganiad bod ymroddiad y clwb i fynd i'r afael â phob math o hiliaeth neu anffafriaeth yn "ddiwyro".
Ychwanegodd: "Gofynnwn i'r holl gefnogwyr barchu'r arfer o benlinio, neu yn wir penderfyniad gwrthwynebwyr i beidio â phenlinio os taw dyna yw eu dewis."