'Posibilrwydd y gallai is-orsafoedd ysbyty fethu'
- Cyhoeddwyd
Mae ysbyty angen £16.5m er mwyn codi is-orsaf drydanol newydd oherwydd mae'r ddwy is-orsaf bresennol "â risg uniongyrchol o fethu", yn ôl adroddiad bwrdd iechyd.
Mae'r is-orsafoedd yn Ysbyty Treforys, Abertawe'n dyddio'n ôl i'r 1980au a "ddim yn cydymffurfio mwyach" â'r safonau.
"Mae angen cadw'r goleuadau ymlaen a'r peiriannau'n gweithio," meddai Darren Griffiths, cyfarwyddwr cyllid Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Mae'r bwrdd yn bwriadu cyflwyno cais am arian i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Griffiths y byddai is-orsaf newydd hefyd yn gwella awyru uned sterileiddio a diheintio'r ysbyty.
Fel y mae pethau'n sefyll, mae awyru o fewn yr uned 50% yn is na'r lefel gofynnol.
Dywedodd Mr Griffiths wrth gydweithwyr mewn cyfarfod bod y gost yn cymryd chwyddiant i ystyriaeth ond byddai'n well dechrau ar y gwaith yn fuan.
'Risg o orlwytho'
Rhybuddia'r adroddiad pebai'r ddwy is-orsaf yn methu, byddai'n amharu ar "theatrau, ardaloedd gwella ar ôl bod mewn theatr a gwasanaethau radioleg", yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.
Ychwanegodd nad yw'r is-orsafoedd yn cydymffurfio mwyach â'r safonau Prydeinig cyfredol, a bod risg o orlwytho'u cyflenwad trydan.
Os fyddai Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r project, fe fyddai'r uned sterileiddio a diheintio'n gweithredu o Ysbyty Singleton dros dro.
Ychwanegodd Mr Griffiths ei fod wedi cael sicrwydd na fyddai gosod is-orsaf newydd yn amharu ar wasanaethau'r ysbyty.
Os caiff y cynllun sêl bendith, fe allai'r gwaith ddechrau ym mis Hydref, ac fe fyddai'r is-orsaf newydd ar waith erbyn Rhagfyr 2023.