Teyrnged i ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Thomas CantonFfynhonnell y llun, Dyfed-Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Canton yn fab, brawd a ŵyr serchus, medd ei deulu

Mae teulu dyn 22 oed o Sir Benfro fu farw mewn gwrthdrawiad brynhawn Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Thomas Canton, o bentref Nolton Haven ym Mae Sain Ffraid, yn gyrru ei VW Golf du ar yr A487 rhwng Solfach a Niwgwl pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:20.

Bu'n rhaid cau'r ffordd am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad cyn ailagor tua 23:10 nos Wener.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion a lluniau dash cam wrth i'w hymchwiliad barhau.

Dywedodd teulu Mr Canton, roedden nhw'n ei alw'n Tom, ei fod yn fab, brawd a ŵyr serchus" oedd yn "anturus, yn caru sgrialfyrddio ac â gwir awch am fywyd".

Ychwanegodd datganiad y teulu ei fod "yn ddyn ifanc caredig, meddylgar, cwrtais, hynod ddeallus a phenderfynol oedd yn sicrhau ei fod yn eich holi am eich diwrnod.

"Roedd wastad ag ateb i bopeth ac roedd yn chwim iawn ei feddwl, ac yn weithgar iawn.

"Bydd Tom yn cael ei golli'n arw ganddom ni fel teulu, gymuned a'i gyfeillion."

Pynciau cysylltiedig