Tri yn gwadu cyhuddiadau caethwasiaeth fodern

  • Cyhoeddwyd
Ruta Stankeviciene (chwith), Jokubas Stankevicius (canol) a Normunds Freibergs (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruta Stankeviciene (chwith), Jokubas Stankevicius (canol) a Normunds Freibergs (dde) yn gwadu cyhuddiadau o gaethwasiaeth fodern

Mae rheithgor wedi clywed sut y daethpwyd â dyn bregus i dde Cymru a'i orfodi i weithio a chael ei gyflog a'i phasbort wedi'u cymryd oddi wrtho.

Disgrifiodd Rolands Kazoks, 31, sut y bu'n byw mewn ystafell fechan yng nghartref y diffynyddion Ruta Stankeviciene a Jokubas Stankevicius.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Mr Kazoks yn cael mynediad cyfyngedig i gawodydd er ei fod yn gweithio mewn ffatri brosesu cig.

Ychwanegodd fod ei gyflog yn cael ei ddefnyddio i dalu dyledion yr oedd wedi ei gasglu wrth ddod i Gymru.

Dywedodd fod trefniadau i ddod ag ef i'r DU wedi'u gwneud gan y trydydd diffynnydd, Normunds Freibergs.

Mae Normunds Freibergs, 40, Jokubas Stankevicius, 59, a Ruta Stankeviciene, 57 - ill tri o Gasnewydd - ar brawf ar gyhuddiad o orfodi person i gyflawni llafur gorfodol.

Maen nhw'n gwadu'r cyhuddiadau.

Mae Mr Freibergs hefyd yn gwadu trefnu neu hwyluso teithio person arall gyda golwg ar gamfanteisio, a gweithredu fel gangfeistr heb drwydded.

Adeiladu bywyd newydd

Dywedodd Rolands Kazoks ei fod wedi dod i'r DU ym mis Tachwedd 2017 o'r Almaen a bod swydd wedi'i chanfod iddo mewn ffatri brosesu cig yn Y Fenni.

Yn wreiddiol o Latfia, dywedodd ei fod eisiau adeiladu bywyd newydd. Ond daeth yn amlwg iddo yn fuan bod rhywbeth o'i le.

Dywedodd eu bod wedi agor cyfrifon banc iddo, ond ni welodd erioed gyfriflenni ac na allai gael gafael ar yr arian yr oedd yn ei ennill.

Disgrifiodd yr amodau byw yn y tŷ teras yr oedd yn ei rannu â'r gŵr a'i wraig a bod rhaid iddo sgwrio'r tŷ unwaith yr wythnos ac hefyd i glirio'r ardd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron Casnewydd

Er iddo gael swyddi mewn gwahanol ffatrïoedd, clywodd y llys fod ei ddyled i'r tri diffynnydd wedi cynyddu wrth iddyn nhw godi tâl arno mewn camgymeriad am bethau fel £50 am rif Yswiriant Gwladol, a £300 am sicrhau swydd mewn ffatri ieir.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi cael gwybod ei fod mewn dyled i'r tri ac na fyddai'n cael ei enillion nes ei fod wedi talu symiau oedd wedi eu hysgrifennu ar ddarn o bapur yn sownd i'r oergell.

Tra'n ddi-waith, cynyddodd dyled Mr Kazoks wrth i log gael ei ychwanegu.

Dywedwyd bod Mr Stankevicius yn cadw siart o ddyled honedig Mr Kazoks ar yr oergell, a oedd yn rhedeg i filoedd o bunnoedd.

'Gwisgo sandalau yn y gaeaf'

Clywodd y rheithgor fod y dyn ifanc yn cael ei fygwth gan Jokubas Stankevicius a Normunds Freibergs, a'u bod wedi cymryd ei basbort allan o'r tŷ, gan fygwth hefyd ei daflu allan i'r strydoedd.

Yn gynharach clywodd y llys fod cydweithwyr yn y ffatri brosesu yn bryderus pan ddaeth i'w waith yn gwisgo sandalau yn y gaeaf.

Dywedodd cyd-weithwyr eu bod yn rhannu bwyd ag ef ar ôl iddynt sylwi arno yn eu gwylio'n bwyta.

Gwadodd y tri yr honiadau gan honni eu bod wedi "teimlo'n ddrwg" dros y dioddefwr ac eisiau ei helpu i ddarganfod gwaith.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig