Gemau'r Gymanwlad: Dwy fedal aur i Gymru ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Olivia BreenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma drydedd medal Olivia Breen, sydd â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy), yng Ngemau'r Gymanwlad

Mae Tîm Cymru wedi ennill dwy fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ddydd Mawrth, gyda llwyddiant i Olivia Breen yn yr athletau a thîm parau'r bowlio lawnt.

Fe wnaeth Breen, 26, ennill y gystadleuaeth 100m T37/T38 i sicrhau medal gyntaf Cymru yn yr athletau, gan drechu'r ffefryn o Loegr, Sophia Hahn.

Dyma ei thrydedd medal yng Ngemau'r Gymanwlad, wedi iddi ennill efydd yn y 100m ac aur yn y naid hir yn 2018.

Fore Mawrth llwyddodd Daniel Salmon a Jarrad Breen i ennill aur ar ôl trechu Lloegr yn rownd derfynol parau'r bowlio lawnt.

Cafodd y gêm ei phenderfynu gan y bowliad olaf, gyda'r Cymry yn drech na'r ddau o Loegr, Jamie Walker a Sam Tolchard.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jarrad Breen yn dathlu ar ôl selio'r aur ar draul Lloegr

Hefyd ddydd Mawrth llwyddodd Jasmine Hacker-Jones i ennill medal gyntaf Cymru yn y jiwdo.

Fe wnaeth y Gymraes drechu Audrey Jeannette Etoua Biock o Cameroon i sicrhau'r efydd yn y categori -63kg.

Hyd yma mae Cymru wedi ennill 13 medal yng ngemau Birmingham - tair medal aur, dwy arian ac wyth efydd.

Pynciau cysylltiedig