10fed medal i Gymru yn y bowls yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Ross Owen, Owain Dando a Jonathan Tomlinson drechu Ffiji o 21-7 yn y gêm am y trydydd safle
Mae Cymru wedi ennill 10 medal yng Ngemau'r Gymanwlad bellach wedi i dîm treblau'r dynion sicrhau efydd yn y bowlio lawnt.
Fe wnaeth Owain Dando, Ross Owen a Jonathan Tomlinson drechu Ffiji o 21-7 yn y gêm am y trydydd safle ddydd Llun.
Lloegr - a drechodd Cymru yn y rownd gynderfynol - enillodd yr aur, gydag Awstralia yn ennill yr arian.
Hyd yma mae Cymru wedi ennill un fedal aur, dwy arian a saith efydd yng ngemau Birmingham.
Mae Cymru hefyd yn sicr o ennill medal aur neu arian yn y bowls ddydd Mawrth, wedi i Daniel Salmon a Jarred Breen selio eu lle yn rownd derfynol cystadleuaeth y parau.
Dywedodd Medi Harris - enillydd medal efydd yn y 100m dull cefn yn y pwll ddydd Sul - ei bod "methu coelio mod i ar y podiwm gyda'r genod yna"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022