Y ferch sy'n blancedu'r digartref â bagiau creision
- Cyhoeddwyd
Pan mae hi'n dod adref o'r ysgol, nid at ei ffôn mae Alyssa yn troi - ond at domen o fagiau creision.
Ac nid rhai llawn, 'chwaith.
Mae'r ferch 12 oed o Sir Ddinbych yn feistr ar droi hen becynnau creision - a fyddai fel arall yn sbwriel - yn flancedi cynnes i bobl ddigartref.
Hyd yma, mae hi wedi creu dros 200 blanced.
O olchi cannoedd o fagiau creision yn sinc yn y gegin, eu smwddio at ei gilydd, a'u danfon at elusennau, mae'r "hobi" yma yn mynd â llawer o'i hamser.
"Dan ni'n cael 44 crisp packet ac wedyn rhoi nhw pedwar mewn strip, ac wedyn ti'n defnyddio iron a baking paper i fuse-io nhw efo'i gilydd," esboniodd Alyssa, sy'n byw ym Mhrestatyn.
"Wedyn ti'n gwneud 11 o hynna ac wedyn yn rhoi'r strips mewn llinell a gwneud yr un fath…
"Pan ti 'di gorffen ti'n gael petryal a ti'n cael plastig i roi ar top y fo, a ti'n fuse-io hynna, ac wedyn mae gen ti'r finished product."
Mae'r blancedi'n cadw gwres yn dda oherwydd wyneb arian y pecynnau creision, yn debyg i flancedi sy'n cael eu defnyddio mewn argyfyngau neu gan redwyr marathon.
Wedi iddi eu cwblhau, mae Alyssa'n ychwanegu menig, sanau, het a manion hylendid at y blancedi a'u danfon, yn bennaf, i elusennau sy'n rhoi llety i bobl ddigartref yn lleol.
Mae sefydliadau yn y Rhyl, Llandudno a Wrecsam wedi gwneud defnydd ohonyn nhw, ac mae ambell flanced wedi mynd i Wcráin hefyd.
Ond o ble daw'r holl becynnau creision?
"Mae gen i focs yn ffreutur y gwaith," meddai mam Alyssa, Darlene Fallorina.
"Mae'r staff i gyd yn rhoi eu pacedi creision yn fanno, ac mae rhai o'n ffrindiau hefyd yn gyrru pecynnau atom ni ac yn casglu ar ein rhan ni."
A beth mae hi'n ei feddwl o'r holl fenter?
"Mae'n ei chadw hi i ffwrdd o'i ffôn - dipyn o hobi!"
Gweld fideo ar-lein am fenter debyg yn Lloegr wnaeth ennyn prosiect Alyssa, ac mae'n ei ddisgrifio fel "ffordd newydd" o ailgylchu a helpu pobl.
Gyda phob blanced yn cymryd awr i'w chreu, mae'r holl fenter yn llyncu amser. Ond mae'r ferch, sydd "ar dân dros yr amgylchedd", yn falch o'i gwaith.
"Ti ddim yn meddwl bod 44 crisp packet yn gallu gwneud rhywbeth fel hyn," meddai.
"Mae o'n lot i bobol ac mae o'n helpu'r amgylchedd lot."
"Maen nhw'n ddiolchgar iawn am yr holl waith mae hi'n ei wneud," ychwanegodd ei mam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd28 Medi 2019