Arestio dyn wedi marwolaeth beiciwr modur ar yr A470

  • Cyhoeddwyd
A470Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r beiciwr modur yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A470 rhwng Llanidloes a Llandinam

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i feiciwr modur gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad rhwng Llanidloes a Llandinam ychydig cyn 11:30 ddydd Sadwrn.

Dywedon nhw fod tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad - car Volvo llwyd, car BMW gwyn, a beic modur Yamaha coch a gwyn.

Cafodd y dyn 46 oed oedd ar y beic modur ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu fod dyn 30 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau, ac mae'r llu yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig