Teyrnged i 'ferch gariadus', 17, wedi gwrthdrawiad Fochriw

  • Cyhoeddwyd
Chloe HaymanFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chloe Hayman, 17, yn teithio mewn car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Mae teulu merch 17 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili fis diwethaf wedi talu teyrnged iddi.

Roedd Chloe Hayman o Aberpennar yn teithio mewn car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Fochriw tua 05:05 ar 24 Gorffennaf.

Mae dyn 21 oed o Rymni wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac o yrru dan ddylanwad alcohol.

Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae Heddlu Gwent nawr yn apelio am wybodaeth bellach.

'Bywyd byth yr un peth eto'

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd teulu Chloe Hayman eu bod yn "methu credu bod ein merch hardd, gariadus a chwaer ofalgar, garedig i dri brawd bach wedi ei chymryd mor ifanc.

"O'r diwrnod y ganwyd Chloe, roedd hi'n ferch fach benderfynol a chryf oedd yn brydferth tu fewn a thu allan.

"Mi fydd hi'n cael ei cholli gan bawb oedd yn ei hadnabod a phawb a gafodd y cyfle i gwrdd â hi.

"Fydd ein bywydau byth yr un peth eto hebddi."

Pynciau cysylltiedig