Agor drysau'r byd celfyddydol i bobl ifanc bregus
- Cyhoeddwyd

Artistiaid mewn ymarfer ym Mangor cyn y gwaith o greu cyfleoedd newydd i rai o bobl ifanc bregus y gogledd
Rhoi cyfle i bobl ifanc bregus gael blasu'r celfyddydau, gan obeithio y bydd yn rhoi hwb iddyn nhw ym mhob agwedd o'u bywydau, yw nod cynllun newydd yn y gogledd.
Mae'n gynllun yn un ar y cyd rhwng cwmni theatr ieuenctid Frân Wen ac elusen GISDA, sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed yng ngogledd Cymru.
Mae'n fwriad i'r bartneriaeth fod yn un hirdymor.
Fe fydd criw o artistiaid ifanc yn mynd i gymunedau ar draws y gogledd i gynnal prosiectau o bob math.

Bydd y cynllun yn helpu unigolion ifanc fynegi eu hunain mewn ffordd greadigol, medd Gethin Evans o gwmni Frân Wen
"Bydd hwn yn gynllun creadigol sydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc yr ardal fod yn rhan o rywbeth creadigol," meddai Gethin Evans, cyfarwyddwr artistig Frân Wen.
Ychwanegodd mai'r nod yw sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu "mynegi eu hunain, gwneud rhywbeth 'dyn nhw 'rioed wedi gwneud o'r blaen trwy rwydwaith ar draws yr ardal".

Rhaid mynd i'r afael â rhwystrau sy'n achosi i rai feddwl mai rhywbeth i bobl eraill yw byd y theatr, medd Siân Elen Tomos
Mae Siân Elen Tomos, prif weithredwr GISDA, yn credu y bydd y cynllun yn "gwneud gwahaniaeth mawr" i fywydau pobl ifanc.
"'Dwi'n meddwl i ddechra' bod yn rhaid torri rhwystrau mewn cymuned, bod theatr yn rhywbeth i bobl eraill," meddai.
"'Dan ni angen perthnasu fo… gwneud yn saff bod pobol ifanc yn ei weld o fel rhywbeth iddyn nhw, ac mae cyfleu hynna mewn gwaith theatr yn gwneud andros o wahaniaeth i fel ma' nhw'n teimlo amdanyn nhw eu hunain.
"A gobeithio, ella, pwy a ŵyr, fyddan nhw'n dilyn gyrfa eu hunain yn y maes yn y dyfodol felly."

Bydd canolfan Nyth yn hwb i artistiaid y gogledd, medd Nia Jones
Mae'n gyfnod cyffrous iawn i bawb sydd ynghlwm â Frân Wen wrth i waith fynd yn ei flaen i sefydlu cartref newydd i'r cwmni yn adeilad Eglwys y Santes Fair ym Mangor.
Mewn cynllun sy'n costio £5m mae'r hen eglwys yn cael ei thrawsnewid i fod yn ganolfan theatrig o'r radd flaenaf. Nyth fydd enw'r ganolfan newydd.
"Mi fydd Nyth yn gartref i Frân Wen ac hefyd yn adnodd cymunedol i Fangor ac yn hwb i artistiaid gogledd Cymru," meddai Nia Jones, cyfarwyddwr gweithredol y cwmni.
Y disgwyl ydy y bydd Nyth yn agor ei drysau yn ystod gwanwyn 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019