Teulu bocsiwr o Gaerdydd fu farw yn 'chwilio am atebion'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 32 oed o Gaerdydd fu farw ychydig ddyddiau wedi iddo gymryd rhan mewn gornest focsio amatur yn mynnu na fyddan nhw'n gorffwys tan iddyn nhw gael gwybod yn union beth achosodd ei farwolaeth.
Cafwyd hyd i gorff Morhib Mia yn ei gartref yn Milton Keynes ar 3 Awst.
Roedd ei reolwr yn ei waith wedi cysylltu gyda'i deulu yn poeni amdano wedi iddo fethu â mynychu'r gwaith drwy'r wythnos.
"Mae'r teulu mewn sioc enfawr," meddai ei frawd Mobasir o gartref ei fam yn ardal Y Rhath, Caerdydd.
Roedd yr ornest focsio wedi ei threfnu gan y clwb yr oedd Morhib yn aelod ohono ac wedi ei chynnal yng ngwesty'r Jury's Inn yn Milton Keynes.
Dywedodd Thomas Banks o Banks' Martial Arts Academy bod marwolaeth Morhib Mia wedi eu syfrdanu ac wedi eu llenwi â thristwch.
"Roedden ni'n meddwl o'r cychwyn fod rhywbeth wedi digwydd ar y nos Sadwrn," meddai Mobasir Miah.
Ar ôl gweld cyflwr corff ei frawd mae Mobasir yn credu y dylai'r ornest fod wedi cael ei stopio ynghynt.
"Roedd e [Morhib] wedi siarad gyda fy mrawd arall ar y dydd Sul, a gyda fy chwaer ac wedi dweud fod ganddo lygad ddu, ond doedd dim sôn am anafiadau eraill nac unrhyw gur i'w ben," meddai.
Bu'n rhaid i Mobasir, sy'n 45 oed, ddisgwyl tan y dydd Gwener cyn cael gweld corff ei frawd.
Cafodd ei ddychryn gan nifer yr anafiadau.
"Pan welais y corff roedd 'na gleisiau - cleisiau difrifol i'w dalcen, ei lygaid a'i drwyn," meddai.
"Roedd ochrau ei ddwy lygad yn goch ac roedd 'na ddarn o'i ddaint ar goll. Roedd 'na farciau ar ei wddf a'i gorff."
Mynnu atebion
Erbyn hyn mae'r teulu yn amau i Morhib beidio â datgelu'r gwir am ei anafiadau i'w hatal rhag poeni yn ormodol amdano.
Ychwanegodd Mobasir: "Pam na wnaethon nhw roi stop ar yr ornest? 'Da ni fel teulu yn mynnu cael atebion i'n cwestiynau hyd yn oed os y bydd hi'n cymryd mis i hynny ddigwydd."
Roedd yna feddyg yn yr ornest ac mae'n debyg iddo ddweud ei bod hi'n iawn i Morhib fynd adref, ac roedd yna ddwy alwad ffôn iddo ddydd Sul gan y clwb bocsio i weld a oedd yn iawn.
Mae Mobasir yn dweud fod y teulu wedi cael rhywfaint o gysur gan yr holl negeseuon yn cydymdeimlo, gan gynnwys gan glwb ysgrifennu creadigol o Milton Keynes.
"Roedd Morhib wrth ei fodd yn ysgrifennu a doeddwn ni ddim yn gwybod tan ychydig ddyddiau yn ôl iddo gyhoeddi dau lyfr," meddai.
"Roedd yn hoff iawn o chwaraeon ond roedd o hefyd yn hoff o ysgrifennu, yn ddyn peniog iawn."
'Beirniaid a dyfarnwr profiadol'
Mewn datganiad mae rheolwr y clwb bocsio, Thomas Banks yn nodi fod y clwb ar gau ar 3 Awst fel arwydd o barch, a hefyd er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw gynorthwyo'r heddlu â'u hymchwiliadau.
"Roedd y beirniaid a'r dyfarnwr i gyd yn brofiadol, ac roedd pedwar o barafeddygon ar y safle drwy gydol y digwyddiad - dau ar ochr y cylch, a dau yn monitro cyflwr y bocswyr cyn ac ar ôl y gornestau.
"Roedd pob un o'r bocswyr yn wynebu rhywun oedd yn yr un categori pwysau, ac oedd â'r un math o brofiad.
"Roedd gornest Mo [Morhib] yn arbennig o agos - cafodd neb eu taro i'r llawr, ac fe wnaeth y ddau focsiwr ysgwyd llaw ar y diwedd. Fe gollodd yr ornest o un pwynt yn unig."
Ychwanegodd Mr Banks: "Doedd gennym ni ddim rheswm i amau bod unrhyw beth o'i le tan i'w chwaer gysylltu â ni ddydd Mercher.
"Mae'r newyddion wedi ein llorio, a hoffwn rannu ein cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu a'i ffrindiau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019