Bocsiwr fu farw wedi celu cyflwr meddygol
- Cyhoeddwyd
Bu farw bocsiwr o Dundee mewn gornest "na ddylai fyth fod wedi digwydd", yn ôl ymchwiliad i ddamwain angheuol.
Bu farw Mike Towell ddiwrnod ar ôl colli yn y bumed rownd yn erbyn Dale Evans o Gymru ym mis Medi 2016.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad pe byddai wedi bod "yn agored a gonest" am gyflwr meddygol oedd ganddo, roedd hi'n "debygol iawn" na fyddai wedi cael parhau i ymladd ar ôl 2014.
Dywedodd yr ymchwiliad fod rheolau bocsio yn agored i bobl yn cuddio gwybodaeth berthnasol am ymladdwyr.
Dioddefodd Mike Towell waedu sylweddol ar ei ymennydd a chwyddo'r ymennydd wedi'r ornest yn Glasgow yn 2016.
Fe wnaeth Dale Evans ymddeol o'r gamp yn dilyn marwolaeth Towell gan ddweud fod y digwyddiad wedi "torri'i galon".
Dywedodd wrth BBC Cymru pan ymddeolodd yn Chwefror 2018 fod ei "awydd a phenderfyniad i lwyddo yn y gamp wedi mynd".
Cafodd Towell ei daro i'r llawr yn rownd gyntaf yr ornest yng ngwesty'r Radisson Blu yn Glasgow, ond fe lwyddodd i barhau â'r ornest.
Fe benderfynodd y dyfarnwr ddod â'r ornest i ben yn y bumed rownd wedi i'r Albanwr gael ei lorio am yr eilwaith. Cafodd driniaeth yn y ring cyn cael ocsigen ac yna cael ei gludo i ysbyty mewn ambiwlans.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2016