Technoleg MRI i helpu dysgwyr ynganu geiriau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Sgan o ben Gwyn Loader
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sgan MRI o ben Gwyn Loader yn gallu gweld patrwm ei geg wrth siarad

Gall technoleg MRI gael ei defnyddio i roi hwb i niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg.

Dyna obaith academyddion o Brifysgol Caerdydd, sydd yn rhan o brosiect newydd i helpu dysgwyr Cymraeg gydag ynganiad.

Yn ôl y darlithwyr, fe allai'r dechnoleg yn ei dro helpu gwireddu bwriad Llywodraeth Cymru o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Daw'r prosiect â staff adrannau Cymraeg a ffiseg Prifysgol Caerdydd at ei gilydd am y tro cyntaf.

'Effaith ar eu hyder'

Mae ceg a llwnc siaradwyr Cymraeg yn cael eu sganio mewn peiriannau MRI wrth ddweud geiriau syml, a fideos yn cael eu creu yn cyfuno'r lluniau a'r sain.

Y gobaith yw dangos union symudiad y geg a'r tafod wrth greu seiniau fel 'ch' ac 'll', all brofi'n anodd i rai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gwyn Loader sgan MRI fel rhan o'r prosiect i weld sut mae'r geg yn symud wrth siarad Cymraeg

Dywedodd Dr Iwan Rees o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wrth raglen Newyddion S4C: "Os ydych chi'n ystyried targed miliwn o siaradwyr, rydyn ni angen miloedd o siaradwyr newydd.

"Y gobaith yw y bydd y rhain [fideos sydd yn cael eu creu fel rhan o'r prosiect] yn cael eu defnyddio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn ogystal â'r sector Cymraeg i Oedolion, i sicrhau bod pobl yn dysgu Cymraeg yn fwy effeithiol."

Mae Dr Rees wedi astudio dysgu Cymraeg i Oedolion, ac wedi canfod y gall trafferthion gydag ynganu weithiau fod yn rhwystr i ddysgwyr gael yr hyder i ddefnyddio'u Cymraeg ac i siaradwyr iaith gyntaf eu derbyn.

"Yn 2018, fe astudiais drafferthion ynganu ym maes Cymraeg i Oedolion gyda fy nghydweithiwr Dr Jonathan Morris ac roedd hi'n amlwg o ymateb y tiwtoriaid bod ynganu yn un o'r prif heriau i ddysgwyr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae methu ynganu'n glir yn gallu effeithio hyder rhywun yn eu hiaith, meddai Dr Iwan Rees

"Os nad yw pobl yn ynganu'n effeithiol, gall hynny effeithio hyder.

Os nad oes hyder ganddyn nhw, efallai na fyddan nhw'n defnyddio'r Gymraeg yn y gymuned, ac o bosib maen nhw'n llai tebygol o gael eu derbyn gan siaradwyr iaith gyntaf ac integreiddio'n effeithiol i gymunedau a chylchoedd Cymraeg.

"Ers hynny, mae nifer o'n hargymhellion wedi eu gwireddu ac mae ynganu nawr yn rhan o gynllun hyfforddi tiwtoriaid, ond mae bwlch o ran meddalwedd a datblygu technoleg all fod yn gymorth i ddysgwyr weld sut mae cynhyrchu ffonemau fel 'ch' ac 'll'.

"Y gobaith yw bydd dysgwyr yn gweld sut mae'r geg yn ffurfio'r seiniau yma, ac yn y dyfodol, y gall adnodd gael ei ddatblygu i fod yn gymorth gyda hyn, a hynny am y tro cyntaf yn y Gymraeg."

'Llafariaid yn broblem i rai'

Mae Helen Prosser yn gyfarwyddwraig gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n cyfaddef y gall ynganu fod yn heriol wrth addysgu a dysgu'r Gymraeg.

"Mae trafferthion ynganu yn amrywio'n fawr yn ôl cefndir rhywun," dywedodd. "Gall llafariaid fod yn broblem i rai dysgwyr, ond mewn rhai rhannau o Gymru, mae'r llafariaid yr un peth yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Mae dysgwyr yn dweud wrthym ni yr hoffen nhw gael rhagor o gymorth gyda llafariaid."

Mae hi hefyd yn gobeithio y gallai'r astudiaeth newydd fod yn gymorth mawr wrth hybu siaradwyr newydd i fod yn hyderus yn y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Prosser yn dweud y gallai'r ymchwil fod o help i rai o'r rheiny mae hi'n eu dysgu

"Bydd hi'n wych i gael lluniau. Yn bersonol, dwi'n caru dysgu Cymraeg, ond efallai mai un o fy ngwendidau i fel tiwtor yw 'mod i'n ei chael hi'n anodd egluro sut yn union dwi'n creu'r seiniau - mae'n rhywbeth sydd yn dod yn reddfol yn hytrach na rhywbeth dwi'n gallu rhesymoli.

"Felly drwy ddangos y lluniau yna i bobl - dw'i ddim yn credu bydd e'n helpu pawb - ond mae 'na bobl sydd yn deall y corff, deall gwyddoniaeth, a dwi'n credu bydd e'n help mawr iddyn nhw.

"Ry'n ni'n ffodus y gallwn fod yn rhan o'r prosiect yma, sydd yn defnyddio technoleg ddrud a fydd yn helpu sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael eu tafod o gwmpas y seiniau sydd yn anodd iddyn nhw."

Cynllun peilot yw'r prosiect ar hyn o bryd, gyda thua 20 o siaradwyr Cymraeg o wahanol rannau o'r wlad yn cael eu sganio ym mheiriant MRI Prifysgol Caerdydd.

Y gobaith yw defnyddio'r canfyddiadau i greu fideos a dangos sut mae ynganu gwahanol eiriau, gyda'r bwriad o fod yn gymorth i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd.