'Methiannau eang' yng ngwasanaethau Sipsiwn a Theithwyr

  • Cyhoeddwyd
Safle CaerdyddFfynhonnell y llun, Geograph/Alan Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Un cwyn yw bod safleoedd yn aml wrth ymyl ffyrdd prysur ac ardaloedd diwydiannol, fel yr un yma ar Rover Way yng Nghaerdydd

Mae adroddiad damniol wedi rhoi darlun ofnadwy o'r gwasanaethau ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.

Dywed pwyllgor Senedd Cymru fod unigolion yn disgwyl blynyddoedd maith am blotiau, bod diffyg cynnal a chadw ar safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan gynghorau, a hiliaeth gan gynghorwyr.

Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â "methiannau eang gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithredu os nad ydy cynghorau yn rhoi llety addas mewn lle.

'Plâu llygod'

Dywedodd adroddiad y pwyllgor fod rhai unigolion wedi bod yn disgwyl dros 20 mlynedd am blot mewn safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan eu cyngor lleol.

Clywodd y pwyllgor hefyd mai anaml iawn y mae rhagor o blotiau yn dod ar gael, a'u bod yn aml mewn lleoliadau "anaddas" - ymhell o gyfleusterau ac wrth ymyl ffyrdd prysur neu ardaloedd diwydiannol.

Fe wnaeth y pwyllgor hefyd weld a chlywed fod angen "atgyweirio sylweddol" ar rai safleoedd.

"Yn ôl rhai cyfranogwyr, mae eu safle, a'r mynediad iddo, yn beryglus, gydag eraill yn egluro bod eu safle yn anaddas ac yn niweidiol i iechyd a llesiant preswylwyr," meddai'r adroddiad.

Ychwanegodd fod rhai wedi sôn am "broblemau gyda lleiniau anwastad, diffyg llwybrau troed, draeniau wedi'u blocio, plâu llygod, ac ystafelloedd ymolchi sydd wedi llwydo".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y pwyllgor weld a chlywed fod angen "atgyweirio sylweddol" ar rai safleoedd

Mae problemau hefyd yn cymryd amser hir i'w datrys - dywedodd un a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor fod ei hawdurdod lleol wedi dweud wrthi nad oedd yn rhaid gwneud gwaith cynnal a chadw o fewn yr un amser â'r hyn fyddai'n ofynnol ar gyfer tai cyngor.

Dywedodd hefyd fod y gwaith "o'r safon adeiladu waethaf y gallwch chi feddwl amdani".

Clywodd y pwyllgor hefyd fod problemau ynglŷn â "gwahaniaethu a hiliaeth systemig mewn perthynas â mynediad i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i safleoedd carafanau gwyliau a phreswyl".

Dywedodd un Teithiwr Gwyddelig y byddai'n cael ei wrthod "oherwydd pwy ydym ni".

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru fod angen dod o hyd i ardaloedd i'r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr fyw ynddynt wrth iddynt deithio drwodd, ac os nad oes safleoedd ar gael y bydd pobl yn gwersylla yn anghyfreithlon.

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfreithiau mewn lle sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau asesu'r angen am ddarparu safleoedd i Deithwyr.

Ond clywodd y pwyllgor fod teuluoedd yn cwestiynu a ydy'r ddyletswydd honno "yn werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno" am nad ydynt yn gweld unrhyw ganlyniadau.

'Rhagfarn yn erbyn Teithwyr'

Mae'r pwyllgor wedi gwneud cyfres o argymhellion, gan gynnwys adolygu'r holl ganllawiau sy'n ymwneud â darparu safleoedd addas.

Dywedodd John Griffiths, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd eu dwyn i gyfrif pan nad yw pethau'n gwella.

"Mae'n amlwg bod rhagfarn yn erbyn Teithwyr ar lefel leol, a thrwy gydol y gymdeithas, yn dal i fod yn eithaf cyffredin ac y dylai gwaith i fynd i'r afael â hyn fod yn flaenoriaeth."

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo adolygiad blynyddol, gan ychwanegu y bydd ei gynllun gwrth-hiliaeth yn adolygu pob awdurdod lleol er mwyn sicrhau fod digon o blotiau ar gael i gwrdd â'r galw.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd a byddwn yn gweithredu os ydy awdurdod lleol wedi methu â chadw at eu dyletswydd i ddarparu llety addas," meddai llefarydd.

Ychwanegodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n cynrychioli cynghorau fod yr adroddiad yn dangos yr angen am "ganllawiau diwygiedig a mwy o adnoddau a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru", a'r heriau sy'n wynebu adrannau cynllunio awdurdodau lleol.