Parhau i daclo tân mewn canolfan ailgylchu

  • Cyhoeddwyd
Fire at recycling plant in Milford HavenFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Mae plismyn yn cynghori pobl i osgoi'r ardal o amgylch Aberdaugleddau

Mae hyd at 100 o ddiffoddwyr yn parhau i ddelio gyda thân a ddechreuodd dros y penwythnos ger canolfan ailgylchu yn Sir Benfro.

Toc cyn 14:00 brynhawn Sul fe anfonwyd criwiau i Aberdaugleddau wedi i dân gynnau mewn adeilad storfa, gyda'r fflamau wedi mynd i ganolfan ailgylchu a chae cyfagos.

Mae wedi ei ddisgrifio gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fel "digwyddiad o bwys".

Nos Sul roedd 14 o griwiau tân a thua 100 o ddiffoddwyr yno, o orsafoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.

Does dim adroddiadau o anafiadau ond gyda sawl asiantaeth yn rhan o'r ymdrech, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai'r bwriad oedd datblygu cynllun i ddiffodd y tân "dros y dyddiau nesaf".

Mae'r heddlu yn gofyn i yrwyr gadw draw o'r ardal ger canol Waterston, lle mae'r B4325 yn parhau ar gau, gyda thrigolion cyfagos hefyd yn cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi a chadw'r ffenestri ar gau.

Ffynhonnell y llun, Tommy Laroche
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y tanau y bu'n rhaid i ddiffoddwyr ddelio â nhw roedd yr un yma ar gyrion traeth Niwgwl

Roedd dydd Sul yn ddiwrnod prysur i ddiffoddwyr tân ar draws canolbarth a de Cymru wrth iddynt orfod delio â nifer o danau gwair.

Bu diffoddwyr hefyd yn delio â thân ar fryn ar gyrion traeth Niwgwl yn Sir Benfro a bu'n rhaid cau'r ffordd heibio mynydd Y Rhigos yn Rhondda Cynon Taf i'r ddau gyfeiriad wedi i dân difrifol greu trafferthion.

Roedd yna danau hefyd yn Nyffryn ger Casnewydd, a rhai eraill yn Abercarn yn Sir Caerffili, Y Dyfawden yn Sir Fynwy ac ar gyrion Pont-y-pŵl yn Sir Torfaen.

Yng nghanolbarth Cymru roedd yna dân ger y ffordd fawr rhwng Y Trallwng a Threfaldwyn ym Mhowys.

Pynciau cysylltiedig