'Achos trasig': Mab yn cyfaddef dynladdiad ei dad
- Cyhoeddwyd
Clywodd llys fod mab wedi dianc o'r ysbyty cyn lladd ei dad awr yn ddiweddarach.
Cafodd Dr Kim Harrison, 68, ei guro i farwolaeth gan ei fab Daniel Harrison, 37, yng nghartre'r teulu yng Nghlydach, Abertawe.
Ddeng niwrnod cyn yr ymosodiad, roedd Daniel Harrison wedi cael ei gadw yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, oherwydd ymddygiad ymosodol "difrifol" tuag at ei rieni.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ei fod yn credu bod ei fam, Jane, mewn perygl oddi wrth ei gŵr, a bod angen iddo ei diogelu.
Cafodd ddiagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd pan oedd yn 22 oed, ond roedd ei iechyd meddwl wedi bod yn dirywio ers 2018, ac roedd wedi stopio cymryd ei feddyginiaeth.
Dihangodd o'r ward yn yr ysbyty ar 12 Mawrth eleni, pan ruthrodd heibio nyrs a oedd yn agor drws diogel gyda cherdyn.
Bu farw Mr Harrison, cyn-arbenigwr mewn ffibrosis yr ysgyfaint, ar 9 Ebrill, o anafiadau i'r pen a'r gwddf.
Roedd y diffynnydd wedi gwadu llofruddiaeth, ond cyfaddefodd i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, a chafwyd tystiolaeth gan ddau seiciatrydd oedd yn cefnogi hynny.
Cloi'r drysau a'r ffenestri
Clywodd y llys fod Daniel Harrison wedi cymryd tacsi i Glydach, cyn cerdded i dŷ ei rieni yn Conniston Hall.
Ffoniodd staff yr ysbyty ei fam i'w rhybuddio ei fod wedi dianc, ac aeth hi a'i gŵr ati i gloi'r holl ddrysau a ffenestri, am eu bod yn poeni am eu diogelwch.
Pan gyrhaeddodd ei mab, aeth Mrs Harrison i lyfrgell y tŷ i ffonio'r heddlu, ond tra'r oedd yn gwneud hynny clywodd ei gŵr yn agor y drws cefn i'w adael i mewn.
Dywedodd William Hughes QC, ar ran yr erlyniad, na chlywodd Mrs Harrison unrhyw leisiau na synau yn ystod y pum munud y bu hi yn y llyfrgell.
"Fe aeth i mewn i'r gegin a gweld ei gŵr yn gorwedd ar ei gefn," meddai Mr Hughes QC. "Gwelodd fod ganddo anafiadau dychrynllyd i'w wyneb."
Ar ôl yr ymosodiad, aeth Harrison i orsaf rheilffordd Abertawe, a dal trên i Lundain, lle cafodd ei arestio ddeuddydd yn ddiweddarach.
Dywedodd wrth yr heddlu ei fod yn teimlo bod ei rieni yn ei ddylanwadu, a bod ei dad wedi achosi "trawma" iddo.
"Dywedodd ei fod wedi ymosod ar ei dad gan ei ddyrnu yn ei wyneb, ac yna ei luchio i'r llawr a'i ddyrnu a'i gicio yn ei ben," meddai Mr Hughes.
'Dal i garu a chefnogi Dan'
Gorchmynnodd y Barnwr Paul Thomas QC y bydd Harrison yn cael ei gadw mewn uned ddiogel, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am amser amhenodol.
"Mae hwn yn achos mor gyfan gwbl drasig ar sawl lefel - mab yn lladd ei dad yng nghartref y teulu," meddai.
"Ond nid yw hynny prin yn dechrau egluro dyfnder y drasiedi yma.
"Mae'n eglur o'r holl ddeunydd o'm blaen fod Mr Harrison wedi bod yn dioddef ers tua 15 mlynedd o sgitsoffrenia paranoiaidd."
Mewn datganiad dywedodd y teulu eu bod yn cael "trafferth amgyffred pam ei bod wedi cymryd colli bywyd Kim er mwyn i Dan gael cadarnhad o'i ddiagnosis".
"Rydym wedi cael rhyddhad mawr fod hyn wedi galluogi iddo dderbyn cefnogaeth broffesiynol ac ail-ddechrau'r driniaeth y mae wedi bod ddirfawr ei angen dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Fel teulu rydym yn dymuno cael amser a lle i alaru, i brosesu'r digwyddiadau a chanfod ffordd o fyw heb Kim - gŵr, tad a brawd tra hoff.
"Byddwn yn dal i garu a chefnogi Dan ym mha bynnag ffordd sydd orau iddo ac i'n bywyd teuluol yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022