Pum munud gyda Elizabeth Fernandez
- Cyhoeddwyd
Ydych chi wedi meddwl sut brofiad fyddai hi i ddysgu iaith arall ac yna symud i fyw i'r wlad honno? Dyna'n union beth wnaeth Elizabeth Fernandez pan ddysgodd Gymraeg yn y Wladfa cyn symud i Gymru.
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gydag Elizabeth am ei chartref yn Yr Ariannin a'i bywyd erbyn hyn yng Nghymru.
Mi rwyt ti'n enedigol o'r Wladfa ym Mhatagonia, Yr Ariannin. A oes gen ti wreiddiau Cymreig?
Na, dim o gwbl. Roedd fy rhieni'n dod o'r de ddwyrain, sef Santa Cruz. Maen nhw'n perthyn i'r Sbaenwyr ddaeth draw i Dde America, nid y Cymry.
Pam a sut nes ti fwrw ati i ddysgu Cymraeg?
Roedd llawer o Gymry'n dod i'r Wladfa ddwy waith y flwyddyn felly ro'n i'n gwybod am y Gymraeg ac am Gymru. Roeddwn i hefyd yn gwybod am yr Eisteddfod yn y Gaiman oherwydd ro'n i eisiau perfformio ar lwyfan.
Pan o'n i'n 15, ro'n i'n astudio yng Ngholeg Camwy ac mi ddes i ar draws athro o'r enw Gabriel Restucha. Aeth ef i Lanbedr Pont Steffan ym 1996 er mwyn dysgu Cymraeg ar y cwrs Wlpan. Dyna ddechrau'r daith gyda'r iaith i mi. Mi wnes i ennill ysgoloriaeth yn 2002 i ddod i ddysgu Cymraeg yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd e'n freuddwyd cael gwneud hyn ac yn brofiad anhygoel.
Beth oedd dy brofiad cyntaf o weithio yng Nghymru?
Ar ôl fy nghyfnod yn Llanbedr mi ddes i nôl i Gymru yn 2007 er mwyn gweithio yng ngwesty Portmeirion. Mi wnes i astudio twristiaeth yn Yr Ariannin a ges i visa gwaith am flwyddyn. Roedd y gwaith yn galed iawn ond mi wnes i gwrdd â llawer o bobol. Ro'n i'n byw ym Minffordd ac erbyn diwedd fy nghyfnod yno ro'n i'n gallu deall gogleddwyr cystal a phobl o'r de!
Beth yw'r gwahaniaeth pennaf rhwng y Wladfa a Chymru?
Mae popeth yn wahanol, y golygfeydd a'r ieithoedd. Y gwhaniaeth cyntaf nes i sylwi arno oedd y lliw. Roedd popeth mor wyrdd yng Nghymru. Yn y Wladfa mae 'na baithdir a llawer o wynt hefyd, lot mwy na fan hyn. Ond mae'r ddau le'n brydferth.
Mi rwyt ti wedi ymddangos fel cymeriad ar Pobol Y Cwm. Sut ddigwyddodd hynny?
Nes i astudio drama yn Buenos Aires yn 2008-09 a chael rhan mewn cynhyrchiadau yno ar ôl gadael y coleg. Yn 2011 roedd gen i basport Sbaeneg yn ogystal ag un o'r Ariannin felly nes i fwrw ati i geisio cael gwaith yng Nghymru er mwyn gwella fy Nghymraeg a Saesneg. Bues i'n gweithio fel cymhorthydd mewn ysgolion cynradd ac yn Bar Mimosa. Roedd yr actor, Ioan Gruffudd yn cyd-berchen y lle ar y pryd. Anfonais i CV at y cynhyrchwyr, ac ar ôl gwneud clyweliad ges i ran yn 2014!
Beth oedd enw'r cymeriad ac am faint fues ti ar y rhaglen?
Fues i ar y rhaglen am flwyddyn. Enw fy nghymeriad oedd Gabriel Gonzalez. Roedd hi'n dod o'r Wladfa ac yn edrych am ei thad, Meic Piers, gan ei fod e'n dod o Gymru'n wreiddiol. Roedd e'n brofiad anhygoel. Dyma'r tro cyntaf i mi wneud unrhywbeth ar gyfer y teledu. Dwi'n cofio rhoi llawer o bwysau arna i fy hun oherwydd fy acen ac ro'n i eisiau dysgu'r sgriptiau'n rhugl, ond fe wnaeth pawb fy helpu i, chwarae teg.
Dwi'n cofio pobl yn fy adnabod i ar y stryd. Ro'n i'n rhedeg o gwmpas Parc Victoria yn Nhreganna unwaith pan wnaeth y teulu yma fy adnabod i! Ddigwyddodd yr un peth yn Stadiwm y Principality hefyd! Roedd e'n brofiad newydd, pobol yn gofyn am gael tynnu llun gyda fi!
Pa bethau eraill rwyt ti wedi eu gwneud yn ystod dy wyth mlynedd yma yng Nghymru?
Mi wnes i ffilm gyda chwmni Lee Havern Jones o'r enw Galesa. Ro'n i'n ffilmio yn y Gaiman, ac er mai ffuglen oedd hi roedd tipyn o fy mhrofiadau personol i'n rhan o'r sgript. Cafodd fy mam fod yn y ffilm hefyd!
Mi fues i hefyd yn gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Roedd gen i brofiad yn y math yma o waith oherwydd nôl yn y Wladfa mi fues i'n tywys twristiaid o gwmpas tai gwreiddiol y Cymry pan symudon nhw i Batagonia.
Mi rwyt ti wedi bod yn byw yng Nghymru ers wyth mlynedd bellach, ai dyma dy gartref di nawr?
Yn sicr. Mae mwy o gyfleoedd gwaith yma o gymharu â'r Ariannin ond mi rydw i'n gweld eisiau fy nheulu a'n ffrindiau yno. Mae gen i deulu mabwysiedig yma yng Nghymru, sef Angharad Evans o Lanarth ger Aberaeron. Ry'n ni'n treulio'r Nadolig gyda'n gilydd ac mae fy nheulu wedi cwrdd â'i theulu hi.
Mae Covid wedi golygu nad ydw i wedi gallu gweld fy rhieni a'n ffrindiau sydd wedi bod yn anodd.
Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Dwi wedi bod yn gweithio i Lywodraeth Cymru ers 2017 ond mi fydden i'n hoffi gwneud mwy o berfformio yn y dyfodol. Pwy a ŵyr?
Hefyd o ddiddordeb: