Y Gynghrair Genedlaethol: Chesterfield 2-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi colli am y tro cyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol ers dechrau'r tymor wrth i Chesterfield gael y gorau arnyn nhw nos Fawrth.
Sgoriodd y tîm cartref eu goliau yn yr hanner cyntaf - diolch i Jeff King (10) a Ollie Banks (23).
Er i Wrecsam godi gêr yn yr ail hanner ofer oedd yr ymdrechion i sicrhau pwynt o leiaf.
Dywedodd y rheolwr Phil Parkinson eu bod wedi cael dechrau addawol i'r gêm cyn ilcio goliau y dylid fod wedi eu hosgoi.