Rhybudd am drenau wedi dau ddigwyddiad yn Harlech

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma'r foment y daeth trên o fewn eiliadau i daro dyn a'i gi ar groesfan yn Harlech fis diwethaf

Mae pobl yn cael eu hannog i fod yn fwy gofalus ar draciau trên ar ôl i bobl gyda chŵn bron â chael eu taro ar ddau achlysur yn Harlech fis diwethaf.

Gyda'r tymor gwyliau yn ei anterth, mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog ymwelwyr a phobl leol i fod yn fwy gwyliadwrus a bod yn berchnogion cŵn cyfrifol.

Ar 9 Gorffennaf fe ddaeth trên oedd yn teithio rhwng Machynlleth a Phwllheli o fewn eiliadau i daro dyn oedrannus a'i ddau gi ar groesfan ger Clogwyni Harlech.

"Weles i ddau beth gwyn ar y trac. Ro'n i'n meddwl mai defaid oedden nhw," meddai Mike Leonard, 54, oedd yn gyrru'r trên ar y pryd.

"Wedyn 'nes i sylweddoli mai cŵn oedden nhw ac yn sydyn fe ddaeth dyn oedrannus gyda ffon gerdded i fyny o'r traeth ac fe wnaeth yntau gamu o flaen y trên hefyd.

"Doedd y cŵn ddim ar dennyn a 'naeth y dyn ddim hyd yn oed edrych wrth iddo groesi."

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddau achlysur fis Gorffennaf bu bron i bobl a'u cŵn gael eu taro ar groesfan ger Clogwyni Harlech

Wythnosau'n unig yn ddiweddarach, ar 31 Gorffennaf, roedd digwyddiad tebyg yn yr un lleoliad.

Y tro hwn bu bron i gi - oedd ddim ar dennyn - a'i berchennog gael eu taro ar ôl crwydro ar y traciau heb sylweddoli fod trên yn agosáu.

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gofyn i bobl "dalu sylw pan yn croesi'r rheilffordd, cadw cŵn ar dennyn, cadw plant yn agos a chadw at yr holl arwyddion diogelwch cyn camu ar y traciau".

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Mae Network Rail yn aml y rhannu lluniau o bobl yn bod yn anghyfrifol ar draciau trên

Dywedodd rheolwr croesfannau Network Rail yn Harlech, Phil Caldwell: "Mae hon wir yn ardal brydferth i ymweld â hi ac yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid, ond mae'r rheilffyrdd yn le peryglus.

"Mae tua 300 o groesfannau rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli yn unig."

Ychwanegodd Krista Sexton o wasanaeth Cymru a'r Gororau fod "trenau'n agosáu gyda bron dim sŵn".

"Os oes ci, clustffonau, ffôn symudol neu unrhyw beth arall yn cymryd eich sylw, fyddwch chi ddim yn sylweddoli bod trên yn nesáu tan ei bod hi'n rhy hwyr."

Pynciau cysylltiedig