Medalau i'r Cymry ym Mhencampwriaethau Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Jeremiah Azu a Zharnel HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sicrhaodd Jeremiah Azu (chwith) a Zharnel Hughes lwyddiant i dîm Prydain yn y ras 100m ym Merlin nos Fawrth

Llwyddodd Jeremiah Azu i gwblhau'r 100m yn ei amser cyflymaf erioed wrth sicrhau medal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop nos Fawrth.

Gorffennodd Azu, a ddaeth yn Bencampwr Prydain fis Mehefin, y tu ôl i bencampwr Olympaidd yr Eidal Marcell Jacobs a chyd-redwr tîm Prydain, Zharnel Hughes, drwy groesi mewn 10:13 eiliad.

Wnaeth y rhedwr o Gaerdydd orffen yn gryf wrth iddo sicrhau ei fedal fawr gyntaf ar lefel ryngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medi Harris, ar y chwith gyda Margherita Panziera (canol) a Kira Toussaint (dde), wedi cipio pedair medal ym Mhencampwriaethau Nofio Ewrop yn Rhufain yr wythnos hon

Roedd llwyddiant hefyd i Gymraes yn y pwll wrth i Medi Harris sicrhau'r bedwaredd fedal ym Mhencampwriaethau Nofio Ewrop yn Rhufain.

Wedi ennill medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn ddiweddar, bu ond y dim i'r nofwraig, 19, o Borthmadog sicrhau'r fedal aur yn y ras 100 medr dull cefn.

Ond er cael ei threchu o drwch blewyn gan Margherita Panziera o'r Eidal a gorfod bodloni ar arian, mae Harris eisoes wedi sicrhau medal aur fel rhan o dîm cyfnewid Prydain yn y 4x100m dull rhydd.

Yn ystod yr wythnos fe wnaeth hi hefyd sicrhau medal arian fel rhan o dîm y 4×200m dull rhydd ac efydd yn y medli cymysg 4×100m.

Pynciau cysylltiedig