Y ras i Rif 10: Pwy ydy Liz Truss?
- Cyhoeddwyd
Mae gan aelodau Ceidwadol tan yr ail o Fedi i ddewis arweinydd nesa'r blaid.
Y cyn-ganghellor Rishi Sunak a'r ysgrifennydd tramor Liz Truss sy'n cystadlu i olynu Boris Johnson a dod yn Brif Weinidog.
Ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies sydd wedi bod yn clywed mwy am y ddau. Dyma'i adroddiad am Liz Truss.
"Rydyn ni fel Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mewn cyfleoedd i bawb; dydyn ni ddim yn credu y dylai pobl gael eu geni i deyrnasu."
Geiriau myfyrwraig 19 oed ar lwyfan cynhadledd y Democrataid Rhyddfrydol ym 1994, yn ystod dadl ar ddiddymu'r frenhiniaeth.
Pwy feddyliai 28 o flynyddoedd yn ddiweddarach y byddai'r un person, Liz Truss, yn cystadlu am arweinyddiaeth y blaid Geidwadol ac i fod yn Brif Weinidog?
Cafodd Liz Truss ei geni'n Rhydychen ym 1975 yn ferch i academydd a nyrs.
Pan roedd hi'n bedair oed, fe symudodd y teulu i'r Alban, cyn symud eto i Leeds yn Sir Gorllewin Efrog.
Chafodd hi ddim addysg breifat ac yn ystod ei hymgyrch mae hi wedi bod yn feirniadol o'i hen ysgol gyfun yn ardal Roundhay y ddinas.
Mae'r sylwadau yna'n "biti", yn ôl un sy'n byw'n Leeds a sydd â chysylltiad gyda theulu Liz Truss.
"Mae'r ysgol wastad wedi cael sylwadau da bob amser, a'r plant sy'n mynd yno bob amser yn cael arholiadau da felly dwi'n synnu braidd - dwi ddim yn gwybod pam ddaru hi ddweud hynny," medd Beryl Lee.
Yn enedigol o Langollen, symudodd Beryl i Leeds ym 1973 i fod yn athrawes.
Dysgodd frodyr Liz Truss yn yr ysgol gynradd, a daeth i adnabod mam Liz Truss hefyd achos byddai hi'n dod i'r ysgol i estyn llaw.
Dywed Beryl bod ganddi "atgofion da o'r teulu", a bod Priscilla Truss yn ddynes "annwyl iawn, bob amser â gwên arni".
"Roedd hi'n foneddiges a'r hogiau yn hogiau bach da.
"Do'n i'm yn meddwl amser hynny basa nhw yn dod yn deulu mor amlwg oherwydd Liz Truss!"
Pwy ydy Liz Truss?
Geni yn Rhydychen yn 1975. Mae wedi disgrifio ei thad, athro Mathemateg, a'i mam, nyrs, fel "asgell chwith";
Addysg yn Paisley ac yna Leeds cyn mynd ymlaen i Rydychen, lle bu iddi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth myfyriol - yn gyntaf fel Democrat Rhyddfrydol cyn ymuno a'r Blaid Geidwadol;
Ethol i San Steffan fel AS De Orllewin Norfolk yn 2010;
Pleidleisiodd yn erbyn Brexit ond ar ôl y bleidlais aeth ymlaen i'w gefnogi;
Penodi'n Ysgrifennydd Tramor yn 2021 wedi cyfnod o dan arweinyddiaeth Theresa May fel Ysgrifennydd Cyfiawnder a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys
Wedi aros yn driw i Boris Johnson hyd at ddiwedd ei arweinyddiaeth.
Cyrraedd Tŷ'r Cyffredin
Wedi gweithio'n y sector preifat, a methu ddwywaith ag ennill sedd seneddol, cafodd Liz Truss ei hethol i Dŷ'r Cyffredin yn 2010 fel yr aelod Ceidwadol dros etholaeth ddiogel de-orllewin Norfolk.
Ymunodd Liz Truss â'r cabinet am y tro cyntaf yn 2014.
Ymgyrchodd yn erbyn Brexit cyn gwneud tro pedol yn dilyn y canlyniad.
Y llynedd, ar ôl bod yn Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, cafodd ei phenodi i'w swydd bresennol fel Ysgrifennydd Tramor ble mae hi wedi gorfod ymateb i'r rhyfel yn Wcráin.
"Mae ganddi lawer o brofiad fel gweinidog," medd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Clwyd David Jones.
Wedi cefnogi Ms Truss ers dechrau'r ymgyrch, Mr Jones gyflwynodd yr ymgeisydd yn hystings y ras arweinyddiaeth yng Nghaerdydd ddechrau mis Awst.
"Mae hi'n gallu gweithio'n galed ac yn gyflym ac yn effeithiol," ychwanega.
Yn wahanol i'w gwrthwynebydd, y cyn-ganghellor Rishi Sunak, mae Liz Truss wedi addo torri trethi ar unwaith os ydy hi'n ennill.
Mae'r cynllun yn taro deuddeg gydag aelodaeth y blaid, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Theo Davies-Lewis.
"Ni wedi gweld Liz Truss yn ymateb gyda'i pholisïau economaidd a pholisïau ariannol i beth mae'r aelodaeth Ceidwadol moyn clywed.
"Mae e'n eitha diddorol i weld sut mae Liz Truss i ryw raddau wedi dwyn dillad Rishi Sunak ar yr economi.
"Hi sydd yn swnio fwyaf cyfforddus yn siarad am yr economi achos bod hi'n gwybod beth mae'r aelodaeth moyn clywed yn y blaid Geidwadol."
Ffefryn clir
Yn ôl y polau piniwn Liz Truss yw'r ffefryn clir i ennill yr ornest, felly ydy hi'n rhy hwyr i'w gwrthwynebydd gau'r bwlch?
"Mae'n amhosib dweud pwy sydd ar y blaen achos mae'r bleidlais yn bleidlais gudd," medd David Jones.
Ond ychwanega ei fod wedi siarad gydag aelodau lleol "ac maen nhw i gyd yn dweud bod nhw wedi pleidleisio dros Liz".
"Dwi ddim yn gwybod i fod yn onest a fydd digon o amser i Rishi rwan."
Mae Theo Davies-Lewis yn cytuno.
"I fi mae'r ras yma wedi cael ei benderfynu'n barod.
"Mae'n beryglus iawn i ddweud hwnna fel sylwebydd ond fi'n credu mae'r momentwm sydd tu ôl i Truss, a'r gefnogaeth sydd gyda hi ar draws y blaid, yn rhywbeth mae e'n anodd iawn i Sunak allu newid dros yr wythnosau nesa."
O lwyfan y Democratiaid Rhyddfrydol i garreg drws Rhif 10 mae Liz Truss wedi bod ar dipyn o daith wleidyddol yn barod.
Fe gawn ni wybod i ble'r aiff hi nesa ar 5 Medi.
Gallwch ddarllen erthygl Cemlyn Davies am Rishi Sunak yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2022
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2022