Cyngor Celfyddydau Cymru yn penodi Dafydd Rhys yn brif weithredwr
- Cyhoeddwyd
Mae Dafydd Rhys wedi ei benodi fel prif weithredwr newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Yn gyfarwyddwr presennol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, mae wedi bod yn Ymddiriedolwr i Gyngor y Celfyddydau ers 2017.
Y llynedd cyhoeddodd y corff benodiad Sian Tomos i'r swydd, ond bu'n rhaid iddi ymddeol am resymau iechyd cyn cychwyn yn ei rôl.
Michael Elliott sydd wedi bod yn y swydd dros dro ers Mawrth 2022 yn dilyn penderfyniad Ms Tomos i ymddeol.
Bydd Dafydd Rhys yn dechrau yn ei swydd newydd yn yr hydref.
'Effaith gadarnhaol y celfyddydau'
Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Mr Rhys ei fod yn "credu'n angerddol yng ngwerth y celfyddydau a'u gallu i wneud gwahaniaeth i fywyd a lles ein cenedl".
Roedd Mr Rhys yn gyn-Gyfarwyddwr Cynnwys gyda S4C, a bu hefyd yn Olygydd Comisiynu ac yna'n Gyfarwyddwr Darlledu'r sianel.
Ychwanegodd: "Er ein bod yn wynebu llawer o broblemau sylweddol yn y celfyddydau yng Nghymru - nid lleiaf effaith pandemig Covid-19, yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng costau byw - rwy'n argyhoeddedig o'r effaith gadarnhaol y gall y celfyddydau ei chael ar bob agwedd o'n bywyd cenedlaethol.
"O fod wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol ar hyd fy ngyrfa a chael profiad ymarferol fel Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ers 2018, rwyf wedi gweld ar lawr gwlad yr effaith gall y celfyddydau ei chael ar fywydau pobl hen ac ifanc ac o bob cefndir cymdeithasol."
Ar benodiad Mr Rhys dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Yn siaradwr Cymraeg o fyd diwydiannol Sir Gaerfyrddin, mae Dafydd yn angerddol ynghylch cyrraedd cymunedau amrywiol Cymru lle mae anfantais economaidd yn aml wedi cyfyngu ar allu pobl i gael mynediad at rym trawsnewidiol y celfyddydau.
"Mae'n benderfynol o ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â'r celfyddydau ar sail parch at greadigrwydd lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020