Cyn-fachwr 'ar y trywydd cywir' ar ôl colli rhan o'i goes

  • Cyhoeddwyd
Ifan Phillips

Mae cyn-fachwr gyda'r Gweilch a gollodd rhan waelod un o'i goesau yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yn dweud bod ei adferiad "ar y trywydd cywir".

Roedd Ifan Phillips yn siarad wrth i gêm rygbi arbennig gael ei chynnal yng Nghrymych brynhawn Sadwrn i godi arian at gost coes brosthetig ar ei gyfer.

Yn 25 oed adeg y ddamwain fis Rhagfyr y llynedd, bu'n rhaid iddo ddod i delerau â'r ffaith bod yr anaf wedi rhoi terfyn ar ei yrfa broffesiynol gyda'r tîm rhanbarthol ac unrhyw freuddwydion o gynrychioli ei wlad.

Roedd yna gannoedd o bobl yn gwylio'r gêm gyfeillgar rhwng timau Crymych a Chastell-nedd, ar Barc Lloyd Thomas.

Yn ôl y trefnwyr cafodd tua £9,000 ei godi rhwng y gêm ei hun ac arwerthiant o roddion ar y diwedd.

Dywedodd Ifan bod cefnogaeth y gymuned iddo ers y ddamwain "wedi bod yn enfawr, chwarae teg".

"Ni'n glos iawn fel cymuned a mae'n dangos pan ma' rhywbeth fel hyn yn digwydd. Ni gyd yn tynnu at ein gilydd, a ni'n cael diwrnod tebyg i heddiw i helpu - wel' i helpu fi mas yn bersonol."

"Dwi 'di gorfod cael llawdriniaeth ar y goes chwith hefyd, yn ogystal â, yn amlwg, be' sydd wedi digwydd i'r goes arall... ond ma' popeth yn mynd ar y trywydd cywir, a ma'r surgeons yn hapus iawn gyda 'nghyflwr i."

Disgrifiad o’r llun,

Castell-nedd oedd y buddugwyr - o 45 i 14 - mewn gêm gystadleuol

Cafodd Ifan ei feithrin fel chwaraewr ifanc gan Glwb Rygbi Crymych, ac fe chwaraeodd am gyfnod i Gastell-nedd cyn ymuno â'r Gweilch.

Mae'n bwriadu hyfforddi blaenwyr Crymych yn ystod y tymor - ei rôl gyntaf fel hyfforddwr.

Mae'n fab i gyn-fachwr Cymru, Kevin Phillips, oedd hefyd yn gapten Castell-nedd yn ystod ei gyfnod yntau gyda'r clwb ac sydd hefyd â chysylltiad agos gyda thîm Crymych wrth hyfforddi nifer o dimau.

Dywedodd Kevin Phillips bod cefnogaeth pobl yr ardal "yn meddwl lot i ni" a bod y clwb rygbi "wedi gweithio'n galed" i drefnu'r gweithgaredd codi arian ddydd Sadwrn.

"Mae 'di bod yn eitha' caled, a gweud y gwir," meddai. "Mae pob un wedi bod mor gefnogol - trwy ffôn, trwy tecst.... fel teulu, o'dd e'n meddwl lot i ni achos beth o'dd 'di digwydd a'r parch o'dd 'da nhw am Ifan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned wedi bod yn arbennig o gefnogol i'r holl deulu, medd Kevin Phillips

Nod y gweithgareddau ddydd Sadwrn oedd codi arian i helpu'r cyn-chwaraewyr gyda'r broses o wella.

Mae apêl tudalen ariannu torfol wedi ei sefydlu i godi £100,000 i dalu am goes brosthetig ar ei gyfer ac mae dros £77,000 eisoes wedi ei gyfrannu.

Dywed trefnwyr yr apêl eu bod "eisiau i Ifan dderbyn y gofal meddygol gorau posib" ac y byddai'r arian "yn helpu i ofalu am anghenion Ifan a'i deulu yn dilyn y digwyddiad trychinebus yma".

Maen nhw'n gobeithio prynu coes brosthetig sy'n cael ei disgrifio fel yr un "mwyaf ddatblygedig yn dechnolegol yn y byd", ac sy'n ganlyniad cydweithio rhwng cwmni technoleg orthopedig yn Yr Almaen a lluoedd arfog yr Unol Daleithiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Ifan yn nhimau Crymych, Cwins Caerfyrddin a Chastell-nedd cyn ymuno â'r Gweilch

"Un o'r pethe dwi 'di gorfod dysgu yn ystod y broses yma yw'r ochr ariannol," meddai Ifan.

"Ma'r prosthetics ma' a'r technoleg yn rhywbeth gwych - ond ma' fe'n dod gyda price tag eitha' uchel.

"Yr arian i gyd sy'n cael ei godi - bydd popeth yn mynd tuag at y prosthetics 'ma - yn y dyfodol yn ogystal â nawr."

Disgrifiad o’r llun,

Gyda thimau ieuenctid Crymych y dechreuodd datblygiad Ifan Phillips fel chwaearwr, meddai cadeirydd y clwb, Huw Scourfield

"Y'n ni'n neud e i ddangos cefnogaeth iddo fe, i neud beth gallwn ni iddo fe fel bod e'n mynd 'mla'n â rest o'i fywyd e," meddai Huw Scourfield, cadeirydd Clwb Rygbi Crymych ac un o trefnwyr y digwyddiadau codi arian ddydd Sadwrn.

"Ma' gweithgaredde fel hyn yn mynd 'mla'n a ma' rhagor i ddod, a dim ni yw'r unig glwb sy'n neud e."

Ychwanegodd ei fod yn "edrych ymlaen" at gael croesawu Ifan fel aelod o'r tîm hyfforddi'r blaenwyr.

Dywedodd Ifan bod hyfforddi'n "rhywbeth falle o'n i mo'yn neud" beth bynnag cyn y ddamwain, a bod y posibilrwydd wedi codi "bach yn rhy gynnar, yn anffodus" o'r herwydd.

Ond ychwanegodd ei fod yn "hapus iawn i ga'l y cyfle gyda Crymych o ddod nôl yma a rhoi rhywbeth yn ôl i'r clwb".

Pynciau cysylltiedig