Lefelau Covid-19 yn parhau i ostwng yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LFTFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd un o bob 40 o bobl yng Nghymru wedi eu heintio â Covid yn yr wythnos ddiweddaraf, yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae hynny'n golygu bod gan tua 72,600 o bobl Covid yn yr wythnos ddaeth i ben ar 8 Awst.

Mae hynny'n llai na'r arolwg diwethaf bythefnos yn ôl, lle'r oedd yr ONS yn amcangyfrif fod gan 108,000 o bobl Covid.

Parhau i ostwng mae'r lefelau yn dilyn cynnydd am chwe wythnos yn olynol rhwng mis Mai a Mehefin.

Ers haf 2020, mae'r ONS wedi trefnu arolwg swab wythnosol sy'n cynnwys miloedd o gartrefi ledled Cymru, sydd bellach yn cynnwys anfon profion drwy'r post hefyd.

Mae wedi dod yn fesur pwysig o lefel heintiau Covid, yn enwedig wedi i brofion eang eraill ddod i ben fis Mawrth.

Mae'r ONS yn amcangyfrif bod un o bob 40 o bobl â'r haint yn Lloegr, un o bob 30 yn yr Alban ac un o bob 50 yn Iwerddon.

Mae lefelau'r haint ar eu huchaf ymhlith pobl yn eu 50au hwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn y cyfamser, mae ffigyrau digidol Iechyd a Gofal Cymru'n dangos fod y nifer o bobl sy'n profi'n bositif yn yr ysbyty wedi gostwng 48% yn ystod y mis diwethaf.

Mae 87% o'r cleifion hynny yn cael triniaeth am achos arall. Fe wnaeth mwy na hanner o'r rheiny brofodd yn bositif dros yr wythnos ddiwethaf ddal Covid tra'n yr ysbyty.

Mae'r nifer sy'n derbyn triniaeth gofal dwys yn yr ysbyty yn sgil Covid tua'r un peth ag wythnos yn ôl.

Mae'r nifer o bobl fu farw gyda Covid yn ffactor wedi pasio 10,650 yng Nghymru.

Yn yr wythnos hyd at 5 Awst, bu farw 39 o bobl yng Nghymru tra wedi eu heintio â Covid, yn ôl yr ONS.

Mae hynny'n cymharu â 62 oedd wedi eu cofnodi yn yr wythnos ddiwethaf.

Roedd oddeutu 72% o'r marwolaethau ymysg pobl dros 75 oed.

Pynciau cysylltiedig