Covid: Gwahodd oedolion i gael pigiad atgyfnerthu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Woman being vaccinated in GlasgowFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae oedolion cymwys yng Nghymru wedi dechrau cael eu gwahodd i gael eu pigiad atgyfnerthu'r hydref ar gyfer Covid-19.

Bydd y brechiadau'n cael eu rhoi o ddechrau mis Medi ymlaen i helpu i atgyfnerthu imiwnedd pobl sydd â risg uwch yn sgil y pandemig.

Dywed Llywodraeth Cymru bod eu strategaeth frechu ar gyfer y gaeaf hefyd yn sicrhau bod pobl cymwys yn cael eu diogelu rhag y ffliw tymhorol.

Bydd un dos o frechlyn Covid-19 yn cael ei gynnig i'r canlynol:

  • Preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

  • Pob oedolyn 50 oed a hŷn

  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol

  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd yn gyswllt cartref i bobl sydd â system imiwnedd wan

  • Pobl rhwng 16 a 49 oed sy'n ofalwyr

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth y bydd oedolion cymwys 18 oed a hŷn yn cael cynnig brechlyn Moderna, sy'n diogelu rhag y feirws Covid gwreiddiol a'r amrywiolyn Omicron, i ddechrau.

Bydd y rhai cymwys o dan 18 oed yn cael cynnig brechlyn Pfizer, a bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig o leiaf dri mis ar ôl unrhyw ddos blaenorol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig i gael pigiad atgyfnerthu'r hydref

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Wrth i'r Deyrnas Unedig symud o gyfnod o ymateb brys i'r pandemig i gyfnod o adfer, fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar ddiogelu pobl sy'n dal i fod mewn mwy o berygl o salwch Covid-19 difrifol.

"Mae brechu wedi cael effaith enfawr ar hynt y pandemig ac wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng y feirws, salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai a marwolaeth.

"Maen nhw wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi'r rhyddid a'r hyder inni ailddechrau ein bywydau.

"Dw i'n annog pawb sy'n gymwys ac sy'n cael gwahoddiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu'r hydref eleni i fanteisio ar y cynnig, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y rhaglen frechu yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae brechu wedi cael effaith enfawr ar hynt y pandemig yn ôl Llywodraeth Cymru

Bydd pobl yn cael eu gwahodd trwy lythyr, yn bennaf, i fynd i ganolfan frechu, meddygfa neu fferyllfa i gael eu pigiad atgyfnerthu'r hydref.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth bod eu strategaeth frechu yn erbyn feirysau anadlol dros y gaeaf "yn cadarnhau y dylai byrddau iechyd roi'r brechiad Covid-19 a'r brechiad ffliw yr un pryd lle bynnag y bo'n bosibl, er enghraifft i bobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), er mwyn annog cynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar y cyfle i gael eu diogelu ar gyfer y gaeaf."

Mae'r llywdraeth yn argymell y dylai pobl barhau i gymryd camau i osgoi dal y feirws, megis:

  • Cael y brechlyn

  • Golchi dwylo'n dda ac yn rheolaidd

  • Aros gartref a chael cyn lleied o gyswllt â phosibl ag eraill os ydych chi'n sâl

  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur a chaeedig dan do

  • Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo'n bosibl

  • Awyru a gadael awyr iach i mewn pan fyddwch dan do.