Lansio deiseb mewn ymgais i achub rhaglen Geraint Lloyd
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawyr anfodlon wedi lansio deiseb mewn ymgais i atal Radio Cymru rhag dod â rhaglen Geraint Lloyd i ben.
Yn gynharach y mis yma daeth i'r amlwg y bydd y rhaglen yn diflannu o amserlen Radio Cymru ddechrau mis Hydref.
Dywedodd Geraint Lloyd wrth Newyddion S4C ei fod wedi'i siomi gan y penderfyniad gan fod y rhaglen yn "rhan o'm mywyd".
Roedd yn diolch am gefnogaeth ei wrandawyr, gan ddweud ei fod wedi synnu gyda'r ymateb cadarnhaol.
Dywedodd Radio Cymru eu bod yn diolch i Geraint Lloyd am ei "gwmnïaeth gyson", ond "o bryd i'w gilydd mae gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau i'r amserlen".
Mae Geraint Lloyd wedi bod yn cyflwyno ar y radio ers degawdau, ac wedi bod yn darlledu ar Radio Cymru ers chwarter canrif bellach.
Mae wedi cyflwyno'r rhaglen hwyr ers 2012, a chyn hynny bu'n cyflwyno yn y prynhawn a gyda'r nos.
Roedd y newyddion yn syndod i'w wrandawyr ffyddlon, a bellach mae deiseb wedi'i lansio mewn ymgais i achub y rhaglen.
Mae dros 700 o bobl wedi ei llofnodi hyd yn hyn.
"Dwi'n drist iawn bod e'n 'bennu, achos o'n i'n gwrando arno fe bob nos," meddai Thelma Lewis o Aberystwyth.
"Gobeithio gewn ni rywbeth tebyg nawr yn ei le fe. Fydd e'n eitha' neis cael rhywbeth i siwto ni yr oedran y'n ni, yn lle i rai ifanc o hyd."
Ychwanegodd Megan Jones Roberts ei bod yn "siomedig iawn".
"Dwi'n gwybod bod 'na gynulleidfa dda iawn yn dilyn Geraint," meddai.
"Y'n ni'n teimlo fel 'sa Geraint yn eistedd yn yr ystafell gyda ni - chi'n teimlo'n agos ato fe - a mae'n bwysig i'r gwrandawyr hŷn i gael rhaglen fel 'na fin nos."
"Dwi ddim wedi cwrdd â Geraint erioed," meddai Glenys Lewis, "ond dwi'n teimlo pe bydden i yn ei weld e, bydden i'n gallu mynd 'mlaen ato fe a siarad ag e fel 'sa ni 'di nabod e erioed."
Yng Nghrymych, mae Jac Vaughan ag arwydd tu allan i'w gartref sy'n darllen 'Cefnogwch y Dyn tu ôl i'r Llais'.
Mae Jac wedi bod yn gwrando ar Geraint ers ei ddyddiau gyda Radio Ceredigion.
"Pam 'bennith Geraint, yn farn i ma' Radio Cymru wedi 'bennu," dywedodd.
"Mae'n gallu siarad â phob un, mae pob un yr un lefel ag e, mae'n deall y job."
'Diolch yn fawr i Geraint'
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru: "O bryd i'w gilydd mae gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau i'r amserlen ac o fis Hydref ymlaen bydd elfennau o amserlen hwyrol Radio Cymru yn newid.
"Bydd mwy o fanylion am yr amserlen ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
"Mae'n diolch ni'n fawr i Geraint Lloyd am ei gwmnïaeth gyson i gynifer ohonom gyda'r nos dros y blynyddoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020