Llanfachraeth: Dyn, 34, yn y llys ar gyhuddiad o dreisio merch ar draeth

  • Cyhoeddwyd
traethFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd ymosodiad ar ferch yn ardal Traeth Penial, Llanfachraeth

Mae dyn 34 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o dreisio merch a throseddau rhyw eraill ar draeth ym Môn.

Ymosodwyd ar y ferch yn ardal Traeth Penial, Llanfachraeth, a chafodd y digwyddiad ei nodi ddydd Iau.

Ymddangosodd Lee James Howland - o ardal Bethesda, Gwynedd - o flaen ynadon Caernarfon ddydd Mawrth. Ni chafwyd cais am fechnïaeth.

Ni chafwyd unrhyw ble chwaith, a chafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar 12 Medi.

Pynciau cysylltiedig