Enwi carfan gref ar gyfer dwy gêm olaf merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gemma Grainger wedi enwi carfan gref ar gyfer dwy gêm grŵp olaf tîm merched Cymru yn eu hymgais i gyrraedd Cwpan y Byd 2023.
Bydd y crysau cochion yn teithio i Wlad Groeg ar gyfer gornest ar 3 Medi, cyn gorffen eu hymgyrch gartref yn erbyn Slofenia ar 6 Medi.
Mae Jess Fishlock yn dychwelyd i'r garfan ar ôl cael seibiant dros yr haf, tra bod eraill sydd hefyd wedi ennill dros 100 cap - Sophie Ingle, Helen Ward, Natasha Harding - hefyd wedi eu henwi.
Os ydy Cymru'n sicrhau pedwar pwynt o'r ddwy gêm honno, fe fyddan nhw'n gorffen yn ail y tu ôl i Ffrainc yn y grŵp ac yn saff o le yn y gemau ail gyfle.
Torf fwyaf erioed
Yr unig absenoldebau amlwg ydy chwaraewr canol cae Caerlŷr, Hannah Cain, ac amddiffynnwr Tottenham, Esther Morgan, wrth iddyn nhw wella o anafiadau hir dymor.
Mae golwr Manchester United, Safia Middleton-Patel hefyd wedi cael ei chynnwys yn lle Poppy Soper o Charlton.
Bydd Cymru'n teithio i Volos yng Ngwlad Groeg yn llawn hyder, ar ôl eu trechu nhw o 5-0 ym Mharc y Scarlets, Llanelli yn gynharach yn yr ymgyrch.
Yna fe fyddan nhw'n wynebu'r prawf tyngedfennol yn erbyn Slofenia, tîm y cawson nhw gêm gyfartal 1-1 yn ei erbyn y llynedd.
Fe fydd yr ornest honno'n cael ei chwarae o flaen y dorf fwyaf erioed i wylio tîm merched Cymru, gyda 9,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod gwerthiant wedi "cynyddu'n sylweddol" yn dilyn twrnament Euro 2022 y menywod, gyda gobeithion y bydd y dorf yn un o bum ffigwr ar y noson.
Carfan Cymru: Laura O'Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Georgia Walters, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Natasha Harding, Ceri Holland, Maria Francis-Jones, Chloe Williams, Morgan Rogers
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022