Gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2023: Cymru 1-2 Ffrainc
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Sophie Ingle i roi gobaith am gyfnod i Gymru
Am yr eildro yn yr ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2023, roedd Ffrainc yn rhy gryf i Gymru wrth iddyn nhw eu curo o ddwy gôl i un nos Wener ym Mharc y Scarlets, Llanelli.
Roedd goliau'r capten Wendie Renard (30) a Marie-Antoinette Katoto (57) yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth er i Sophie Ingle roi gobaith y gallai Cymru o leiaf unioni'r sgôr o flaen torf o 4,553.
Mae Cymru'n dal yn nhrydydd safle Grŵp I gyda 13 o bwyntiau, ac mae eu tynged yn dal yn eu dwylo eu hunain yn y gemau sy'n weddill yn y rownd rhagbrofol o ran ceisio sicrhau lle yn y gemau ailgyfle.
Roedd yna berfformiad ddigon clodwiw gan chwaraewyr Gemma Grainger yn ystod hanner cyntaf cystadleuol.
A hithau'n llenwi'r bwlch yn sgil gwaharddiad Kayleigh Green, fe wnaeth Carrie Jones greu problemau i amddiffyn yr ymwelwyr, ac roedd yna ddau arbediad pwysig gan Laura O'Sullivan yn y gôl.
Ond doedd dim gobaith iddi arbed peniad Renard, oedd yn rhydd yn y cwrt cosbi, o gic gornel Sandie Toletti wedi hanner awr o chwarae, ac roedd yna siom o fod wedi ildio gôl gymharol hawdd.

Gôl Wendie Renard
Roedd Kadidiatou Diani, a ddaeth yn agos at sgorio hefyd ond i'w hergyd daro'r postyn, yn creu cur pen i amddiffynwyr Cymru ond 0-1 oedd y sgôr ar yr egwyl.
Doedd dim newidiadau ar gyfer yr ail hanner, a dim llawer o newid ym mhatrwm y chwarae chwaith wrth i Ffrainc sicrhau'n rhan fwyaf o'r meddiant.
Llwyddodd Jess Fishlock i gysylltu â chic rydd Angharad James ond yn anffodus roedd ei hergyd yn rhy uchel.
Ond yna fe wnaeth O'Sullivan smonach wrth geisio clirio'r bêl o rwyd Cymru ben arall y cae, gan ei rhoi ar blât i Katoto. Mater bach wedyn oedd ei chyfeirio i'r rhwyd wag ac roedd Ffrainc wedi dyblu'r fantais.
Daeth Diani'n agos at sgorio trydydd gôl i'r ymwelwyr, cyn i Ffrainc ildio'r gic gornel a arweiniodd at gôI Ingle. Methodd yr amddiffyn â chlirio'r bêl ac fe wyrodd yr ergydiad oddi ar un o'r gwrthwynebwyr i'r rhwyd gan roi llygedyn o obaith i Gymru.
Yn fuan wedi hynny roedd Cymru'n meddwl eu bod wedi dod yn gyfartal wedi i Gemma Evans gysylltu â chroesiad gwych o'r dde a phenio'r bêl i'r rhwyd ond roedd yna gamsefyll ym marn y llimanwr.
Roedd yna waith ardderchog gan Evans wedyn i glirio'r bêl o'r lein wedi camgymeriad arall gan O'Sullivan yng ngôl Cymru.
Daeth Helen Ward i'r maes yn hwyr yn y gêm i ennill ei chanfed cap rhyngwladol, ond doedd dim buddugoliaeth i goroni'r noson wrth i Ffrainc barhau â'u record gant y cant yn yr ymgyrch.
Bydd Cymru'n wynebu Kazakhstan oddi cartref ddydd Mawrth 12 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2021