Sir Benfro: Rhybudd bod carthion wedi llifo i'r traeth

  • Cyhoeddwyd
Arwydd o rybudd ar draeth Pont-yr-ŵr
Disgrifiad o’r llun,

Arwydd o rybudd ar draeth Pont-yr-ŵr

Mae pobl wedi cael eu rhybuddio am garthion posib yn y dŵr mewn ardal boblogaidd yn Sir Benfro.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i ardal Pont-yr-ŵr, rhwng Llanusyllt (Saundersfoot) ac Amroth, sy'n boblogaidd ymysg twristiaid. Mae'r traeth yn parhau ar agor.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod effaith posib ar ansawdd y dŵr, a bod y risg o gael eich heintio yn uwch.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw'n ymchwilio i'r sefyllfa ac mae hi'n cael ei datrys.

Daw hyn wedi i ymgyrchwyr ddweud fod gan gwmnïau dŵr a Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb i ddiogelu iechyd cyhoeddus rhag carthion yn gorlifo.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd pobl yn y dŵr er gwaetha'r rhybudd

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wario £40m ar wella'r sefyllfa dros y tair mlynedd nesaf.

Mae Dŵr Cymru'n ymgynghori'n gyson ar gynllun 25 mlynedd i atal carthion rhag gorlifo - cynllun lle caiff carthion eu rhyddhau i'r amgylchedd er mwyn eu rhwystro rhag llifo'n ôl mewn i dai pobl.

'Pryderus iawn'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Paul Lewis yn poeni am effaith y sefyllfa ar ei blant

Un oedd yn poeni am y sefyllfa oedd Jonathan Paul Lewis, sydd â charafan yn Llanusyllt.

"Mae gen i ddau o blant, dwi'n treulio llawer o amser ar y traeth ac yn y dŵr... yn enwedig yn yr ardal hon, a dwi'n bryderus iawn am fy mhlant yn mynd yn sâl.

"Rydyn ni yma am ychydig o ddyddiau a 'dan ni'n treulio'r mwyafrif o'n hamser ni yn y dŵr... os yw'r plant yn cwympo'n sâl dros y dyddiau nesa' 'ma, bydda i ddim wir yn gwybod ble i edrych."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Janet a Peter James yn mynd i'r traeth er gwaetha'r rhybudd

Dywedodd Janet a Peter James o Lanusyllt eu bod am barhau i fynd i'r traeth er gwaetha'r rhybudd, ond eu bod am fod yn fwy gofalus.

"Rydyn ni wedi cerdded ar hyd y traeth. Doedden ni ddim yn bwriadu nofio heddiw, a siŵr o fod 'nawn ni ddim nofio er mwyn bod yn ofalus.

"'Swn i'n hoffi meddwl petai'r broblem yn ddifrifol byddai'r traeth ar gau."

'Peri pryder'

Disgrifiad o’r llun,

Dylai pobl gymryd camau bach i ddiogelu eu hunain, medd Edwin Morris

Dywed Edwin Morris o Frynaman, sy'n ymweld â'r traeth yn aml, iddo erioed weld arwydd o'r fath o'r blaen.

"Yn amlwg mae'n peri pryder, ond mae bywyd yn risg - felly golchwch eich dwylo a pheidiwch ag yfed gormod o ddŵr môr.

"Dyw e ddim wedi'n hatal ni rhag gwneud unrhyw beth."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y traeth i weld yr un peth â'r arfer, medd Jess Parker a Seb Smith

Fe aeth Jess Parker a Seb Smith o Benrhiwceiber i nofio gyda'u ci.

"Dim arogl gwael, dim byd - roedd y dŵr yr un peth â ma' fe drwy'r amser."

Yn ôl Margaret Caroline Rees, sy'n gwerthu hufen ia ar y traeth, roedd yna bobl yn y dŵr fore Iau a dydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Ym marn Margaret Caroline Rees mae'r sefyllfa yn un bryderus

"Roedd hi bach yn dawel ddoe, ond galla i ddim gweld sut fyddai unrhyw un wedi bod yn ymwybodol o'r peth.

"Mae'r bobl leol i weld yn pryderu - daeth un ddynes lan ata i bore 'ma i ofyn amdano, ac roedd hi i weld yn poeni."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad a bod y sefyllfa yn cael ei datrys.

"Rydyn ni'n cyflwyno trwydded i ganiatáu carthion i orlifo yn ystod glaw trwm - yn enwedig ble gallai cyfaint y dŵr effeithio ar dai ac eiddo," meddai.