Rheithgor achos Ryan Giggs i barhau gydag 11 aelod

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs yn cyrraedd y llys ddydd Gwener 26 AwstFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Giggs yn cyrraedd y llys ddydd Gwener

Fe fydd y rheithgor yn yr achos yn erbyn cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, yn ailymgynnull ddydd Mawrth i ystyried ei ddyfarniad.

Cafodd y rheithgor ei anfon adref ddydd Iau wedi i un o'r aelodau gael ei daro'n wael.

Mae'r barnwr bellach, gyda chytundeb y ddau dîm cyfreithiol, wedi rhyddhau'r unigolyn yna o'r achos.

Fe wnaeth y trafodaethau barhau ddydd Gwener, ond cafodd y rheithgor eu hanfon adref am y penwythnos.

Mae Mr Giggs yn gwadu rheoli ei gyn-gariad, Kate Greville drwy orfodaeth ac o ymosod arni hi a'i chwaer, Emma Greville.

Mae'r rheithgor wedi bod yn ystyried y dyfarniadau yn Llys y Goron Manceinion ers prynhawn Mawrth, ac mae aelodau'r rheithgor wedi cael gorchymyn i anelu am ddyfarniad unfrydol.

Pynciau cysylltiedig