Colli ymgais i atal polisi addysg rhyw Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Plant mewn dosbarth yn cael gwers addysg rhyw

Mae grŵp o rieni wedi colli eu hymgais munud olaf i atal cyflwyno cwricwlwm newydd ar berthnasoedd a rhywioldeb yng Nghymru ar ddechrau'r tymor ysgol.

Gwrthododd barnwr Uchel Lys y cais am waharddeb gan grŵp sy'n honni bod Llywodraeth Cymru yn gosod "ideoleg ymosodol" ar faterion fel rhywedd.

Roedd pum rhiant am dynnu eu plant allan o'r gwersi gorfodol o ddechrau'r tymor newydd neu atal cyflwyno'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) newydd yn gyfan gwbl yng Nghymru.

Yn ei dyfarniad dywedodd Mrs Ustus Tipples y byddai'n "amhariad sylweddol iawn a llawer iawn o ysgolion a phlant yn cael eu heffeithio" pe bai'r waharddeb munud olaf wedi ei chaniatáu.

Dywedodd nad oedd tystiolaeth y byddai plant yr hawlwyr yn dioddef unrhyw niwed o gael eu haddysgu o dan y cwricwlwm newydd, a dyfarnodd yn erbyn eu tynnu allan o wersi.

Mae'n dilyn penderfyniad gan yr Uchel Lys i roi'r hawl i Public Child Protection Wales, sy'n gwrthwynebu cynlluniau i wneud addysg rhyw yn orfodol, i herio'r cynlluniau yn y llysoedd.

Bydd adolygiad barnwrol i'r cwricwlwm newydd yn cymryd lle fis Tachwedd.

Brwydr 'Dafydd a Goliath'

Roedd cyfreithwyr ar ran y rhieni'n dadlau'n erbyn yr RSE newydd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu y bydd gwersi yn "briodol i oed".

Mae'r RSE yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru y mae'n rhaid i ysgolion cynradd a rhai ysgolion uwchradd ei gyflwyno o fis Medi ymlaen ac ni all rhieni dynnu eu plant allan ohono.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn hyderus bod y diwygiadau yn "gymesur a chyfreithlon".

Derbyniodd y barnwr fod y mater yn un "difrifol" ond dyfarnodd hefyd nad oedd unrhyw ddarpariaeth gyfreithiol y gallai gyfarwyddo Gweinidog i rwystro'r polisi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gwricwlwm newydd Cymru gael ei lansio mewn ysgolion cynradd ym mis Medi eleni, ac mewn ysgolion uwchradd yn 2023

Gorchmynnodd fod yr hawlwyr yn talu costau cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Yn cyflwyno i'r barnwr ddydd Mercher, dywedodd y bargyfreithiwr Paul Diamond, sy'n cynrychioli'r pum rhiant, eu bod yn "ymladd dros eu plant", gan ei gymharu â "Dafydd a Goliath".

Dadleuodd y byddai'n gosod "safbwynt moesol arbennig" a chyhuddodd Weinidogion Cymru o "eithafiaeth ac anoddefgarwch".

"Rydyn ni'n sôn am y pwysau ideolegol mwyaf eithafol ar blant yn y wlad hon," meddai Mr Diamond.

Cyfaddefodd ei fod yn "ofyn mawr iawn i atal Deddf Senedd Cymru", gan ychwanegu "ni all y materion fod yn fwy sylfaenol i'n cymdeithas".

Mae ymgyrchwyr o dan y faner Public Child Protection Wales yn honni y gallai plant mor ifanc â thair oed fod yn agored i themâu a deunydd amhriodol.

'Deall a pharchu gwahaniaethau ac amrywiaeth'

Ond ar ran Gweinidogion Cymru dywedodd y bargyfreithiwr, Emma Sutton, mai pwrpas Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oedd helpu disgyblion i ddatblygu i "unigolion iach, hyderus drwy roi addysg briodol iddynt o ran eu datblygiad a fydd yn rhoi dealltwriaeth gywir iddynt o berthnasoedd a rhywioldeb".

"Mae'n rhoi pwyslais ar hawliau, cydraddoldeb, tegwch, ac mae'n ceisio galluogi disgyblion i ddeall a pharchu gwahaniaethau ac amrywiaeth."

Dywedodd Ms Sutton ei bod yn "rhy hwyr" i'r hawlydd ddod i'r llys gyda'u cais, yn yr wythnos cyn i'r cwricwlwm ddod yn statudol.

Roedd caniatáu'r waharddeb yn debygol o gael "effaith sylweddol ar weithrediad y cwricwlwm", ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Gweddarllediad Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ohiriwyd cyfarfod o Gyngor Gwynedd am gyfnod yn dilyn aflonyddu o'r oriel gyhoeddus yn Siambr Dafydd Orwig

Yr wythnos diwethaf bu'n rhaid gohirio cyfarfod o Gyngor Gwynedd am gyfnod wedi i aelodau o'r cyhoedd herio cynghorwyr o'r oriel gyhoeddus yn ystod trafodaeth ar y polisi.

Yn ystod y cyfarfod dywedodd sawl cynghorydd fod pamffledi wedi eu dosbarthu o fewn y sir a oedd yn cynnwys "llenyddiaeth gamarweiniol iawn" ynglŷn â'r cwricwlwm newydd.

Roedd pamffledi yn honni y gallai'r polisi addysg rhyw newydd "gyflwyno plant ifanc i amrywiaeth o syniadau rhywiol".

Ond dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, fod yr honiadau yn "ddi-sail" ac yn "hynod beryglus".

'Camwybodaeth' yn destun pryder

Fe gyhoeddodd yr elusennau NSPCC Cymru, Cymorth i Ferched Cymru a'r Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes ddatganiad ar y cyd brynhawn Iau yn ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys.

Mae'r datganiad yn amlygu pryder ynghylch "lledaeniad camwybodaeth" am gyflwyniad y cod RSE mewn ysgolion "a'r effaith y mae'n ei chael ar rieni a gofalwyr".

Ychwanega'r datganiad eu bod "yn llwyr gefnogi" cynnwys cod RSE gorfodol o fewn cwricwlwm newydd Cymru "sy'n berthnasol, sensitif ac addas i'r oedran o ran galluoedd ac anghenion".

Maen nhw'n dadlau bod yna "fuddion gydol oes i blant a phobl ifanc trwy eu dysgu am berthnasau iach a phositif, gan eu galluogi i adnabod camdriniaeth a dysgu am eu hawliau i fod yn ddiogel ac iach".

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod yn cefnogi hawl rhieni i ddewis cadw eu plant o wersi RSE ac i benderfynu pa oedran y mae pynciau penodol yn addas ar eu cyfer.

Dywedodd llefarydd addysg y blaid ym Mae Caerdydd, Laura Anne Jones AS eu bod "yn deall ac yn parchu dyfarniad y barnwr heddiw" ond bod "hwn yn drafodaeth y mae angen i'w chael ac mae angen gwrando ar bryderon rhieni".

Ychwanegodd: "Yn anffodus, mae'r llywodraeth Lafur yn ymddangos yn benderfynol o anwybyddu ewyllys llawer o rieni ar draws Cymru. Yn sylfaenol, dylai'r penderfyniad fod yn eu dwylo nhw, yn hytrach na'r wladwriaeth."

Pynciau cysylltiedig