Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd
Abertawe yn erbyn MiddlesbroughFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Joel Piroe sgoriodd unig gôl yr Elyrch

Fe wnaeth yr Elyrch golli am yr ail gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, a hynny o 1-2 yn erbyn Middlesbrough.

Fe wnaeth Riley McGree sgorio wedi rhyw chwarter awr o chwarae i roi Middlesbrough ar y blaen.

Ymhen pymtheg munud arall fe wnaeth y tîm cartref ddyblu eu mantais drwy gôl gan Matt Crooks, gan adael Abertawe ar ei hôl i o 0-2 erbyn yr egwyl.

Doedd hi ddim yn ddrwg i gyd i'r Elyrch, wrth i Joel Piroe sgorio o'r smotyn wedi tua 80 munud - ond doedd hi ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth.