'Dim modd galw 999' ar linellau ffôn Cwmystwyth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dim modd galw 999' o linellau ffôn Cwmystwyth

Mae pobl mewn pentref yng Ngheredigion yn dweud bod problemau diweddar gyda system ffôn digidol newydd wedi eu gadael heb gysylltiad â'r gwsanaethau brys.

Yn raddol, mae cartrefi yng Nghwmystwyth - lle nad oes signal ffôn symudol - yn cael eu newid o'r hen linellau ffôn copr i wasanaeth digidol.

Ond dyw'r system Digital Voice - sy'n cael ei chario gan geblau ffeibr - ddim yn gweithio pan fo problemau band eang neu doriadau pŵer.

Mewn llythyr at un o drigolion y pentref mae cwmni BT wedi ymddiheuro ac wedi dweud ei fod yn oedi'r rhaglen o drosglwyddo i'r system ddigidol newydd hyd nes y bydd dulliau wrth gefn gwydn yn eu lle o sicrhau cysylltiad ffôn pan na fydd y trydan yn gweithio.

'Rhwydwaith 'letric yn fregus'

Mae pentref Cwmystwyth tua 16 milltir o Aberystwyth ac yn 300m uwchben lefel y môr. Mae'r bobl leol wedi arfer â thywydd garw - eira, gwynt, a glaw.

Ond yn ôl un o'r trigolion, Eluned Evans, mae'r trydan neu'r band eang yn gallu diffodd ar unrhyw adeg.

"Os yw'r tywydd yn braf 'da ni'n colli'r 'lectric', weithiau pan mae'r haul yn gwenu 'da ni'n colli'r 'lectric.

"Mae 'na gymaint o goed o gwmpas ac mae'r rhwydwaith 'lectric yn fregus mewn ardaloedd fel hyn.

"Allwch chi gweld wrth fynd allan o'r pentre bod yna wifrau trydan a ffeibr a changhennau coed reit ar eu ben nhw."

Mae'r hen linellau ffôn copr yn dod i ddiwedd eu hoes ac mae BT yn y broses o osod y systemau digidol yn eu lle ar draws y Deyrnas Unedig.

Roedd yr hen linellau copr yn dal i weithio pan fyddai'r cyflenwad trydan wedi torri, ond dyw hynny ddim yn wir ar gyfer y system ddigidol ar linellau ffeibr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Evans o Gwmystwyth fod y rhwydwaith "yn fregus mewn ardaloedd fel hyn"

Mae Eluned Evans yn y broses o drosglwyddo i system Digital Voice ac yn y llyfryn ddaeth gyda'r ffôn newydd mae'n rhybuddio: "Ni fydd modd i chi alw 999 (nac unrhyw rifau eraill) o'r ffôn yma os bydd toriad yn y cyflenwad trydan neu os bydd problemau band eang.

"Felly gwnewch yn siwr bod ganddoch chi ffordd arall o alw am help mewn argyfwng."

''Dan ni yn poeni'

Yng Nghwmystwyth, mae'r trigolion yn dweud nad oes ffordd arall o alw - does dim signal ffôn symudol yn y pentref.

Mae mast newydd wedi cael ei godi yn ddiweddar ond mae'n ansicr pryd fydd yn weithredol, neu a fydd yn cynnig signal i'r cyhoedd neu a fydd e at ddefnydd y gwasanaethau brys yn unig.

Ar ôl darllen y rhybudd yn llyfryn y ffôn newydd dywedodd Eluned - "Mae e jyst yn rhwbio halen i mewn i'r craith. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw yng Nghwmystwyth of a certain age.

"'Dan ni yn poeni. Beth pe bai un ohonom ni yn cael strôc a da ni'n methu â chysylltu â'r ambiwlans?"

Mae'n bosib cysylltu ffonau Digital Voice i fatri fydd yn eu cadw nhw'n gweithio am gyfnod o ychydig oriau ar ôl i'r trydan ddiffodd - ond dyw hynny ddim yn gysur mawr i'r trigolion.

Mae nifer yn dweud mai'r unig ateb yw signal ffôn symudol dibynadwy.

Mae Caroline Nash wedi cael y profiad o fethu â chysylltu mewn cyfnod o straen mawr iddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg cysylltiad wedi achosi straen i Caroline Nash o Gwmystwyth

Daeth ei gŵr adre o'r ysbyty yn ddiweddar gyda chyflwr difrifol a bu'n rhaid iddi gadw cyswllt dyddiol gyda'r meddygon.

Ond doedd hi'n methu gwneud hyn o gartref ar ôl colli ei chyswllt band eang am wyth diwrnod.

Dywedodd Caroline: "Doedd gen i ddim cysylltedd o gwbwl o'r tŷ, felly roedd yn rhaid i fi fynd rhyw bum milltir o gartref er mwyn cael signal symudol a gadael fy ngŵr ar ei ben ei hun yn y tŷ.

"Unwaith, pan o'n i mas fe gwympodd e a brifo'i lygad. Mae'r holl beth wedi bod yn eitha' trawmatig ac yn ofidus."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith o Gwmystwyth wedi bod yn cael problemau gyda chysylltu ffonau

Dywedodd Keith bod grŵp o feicwyr modur wedi bod yn chwilio am dŷ oedd â ffôn oedd yn gweithio yn dilyn damwain ar ffordd fynydd gerllaw.

Doedd ffôn y tŷ cyntaf lle gwnaethon nhw alw ddim yn gweithio, a bu'n rhaid chwilio am dŷ arall oedd yn dal i fod ar yr hen linell gopr er mwyn galw'r ambiwlans awyr.

'Paratoi i ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid'

Mewn datganiad dywedodd BT ei fod wedi ymateb i bryderon cwsmeriaid ac wedi cymryd y penderfyniad i oedi cyflwyno Digital Voice am y tro a hynny am fod y cwmni "heb sylweddoli yr effaith y byddai diweddaru'r dechnoleg yn ei chael ar rai grwpiau o gwsmeriaid."

Ychwanegodd BT "Ry'n ni wedi dysgu o hyn ac yn paratoi i ddarparu profiad gwell i gwsmeriaid yn ystod y cyfnod nesaf o gyflwyno'r dechnoleg.

Dywedodd y cwmni ei fod yn mynd i ailddechrau cyflwyno Digital Voice pan fydd ganddo hyder bod yr atebion a'r cynnyrch cywir yn eu lle er mwyn "darparu cysylltedd gwydn i'r cwsmeriaid hŷn."

Ond mae BT yn pwysleisio bod rhaid symud i system ddigidol ac i ffwrdd o'r hen linellau copr sy'n cyrraedd diwedd eu hoes.

Fe fydd hyn, meddai BT, yn dod â "buddion hirdymor sylweddol i'r Deyrnas Gyfunol ac rydym yn benderfynol o gael hyn yn iawn."